A novel in the short and fast-paced series Quick Reads. A novel about a married man's fantasies as he arranges secret meetings with women over the internet. But gradually, through his connections with friends and family, the net suddenly closes in on him. Reprint; first published in February 2007.
Nofel yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Nofel am ymgais gAur priod i fyw ei ffantasiau, gan drefnu cyfarfodydd dirgel gyda rhesaid o ferched drwy gyfrwng y rhyngrwyd. Ond drwy ei gysylltiad a'i ffrindiau a'i deulu, mae'r rhwyd yn cau amdano mewn modd sydyn ac annisgwyl. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn Chwefror 2007.
~Publisher: Y Lolfa
Yn brin o amser i ddarllen? Y gŵr, gwaith neu’r plant yn llyncu eich wythnos chi i gyd? Neu a ydych chi’n meddwl nad ydi’ch Cymraeg chi'n ddigon da i ddarllen nofel Gymraeg?
Yr ateb? Bachwch lyfr. A dyna wnes i, mi fachais Y Rhwyd gan Caryl Lewis, un o’r nofelau yn y gyfres ‘Stori Sydyn’ sydd newydd gael eu cyhoeddi'n ddiweddar. Bwriad y nofelau byrion hyn yn y gyfres ‘Stori Sydyn’ yw ceisio annog mwy o bobl i ddarllen, hynny ydi, y rhai nad ydynt eisoes yn darllen.
I ddechrau, mae clawr Y Rhwyd yn ddigon i ddenu darllenwyr gan mai llun o ddyn neu ddynes noeth (dwi ddim yn siŵr pa un!) sydd arno, a thair croes wen ar draws clun y person. Awgrymog a deud y lleiaf! Felly, stori am ryw meddyliais yn syth, ac ro’n i’n iawn. Stori Meic ydi hon, ac mae Meic yn briod, yn hapus a dau o blant bach del ganddo fo, ond mae ganddo gyfrinach dywyll na ŵyr neb amdani ar wahân i’w ffrind gorau, Paul. Mae Meic yn rhyw fath o hwren wrywaidd sydd yn gwerthu ei ‘gymwynasau' ar y we i ferched sydd yn chwilio am ‘thrills' rhywiol. Mae popeth yn hyfryd ac yn hwyl ar y dechrau nes iddo gyfarfod â Miss XXX ac yna mae’r stori yn troi’n dywyll a sinistr iawn . . . ddyweda i ddim mwy; bydd rhaid ichi brynu’r gyfrol, sydd yn rhad fel baw, i weld be sy’n digwydd.
Er bod y stori yn ei hanfod yn un syml , dyw Caryl Lewis ddim wedi ymdrin â hi mewn dull nawddoglyd, a llwydda i ysgrifennu mewn arddull aeddfed ar gyfer oedolion call, sy’n meddu ar ymennydd ac sy’n gallu datrys pethau ein hunain os cawn gyfle. A deud y gwir, mae hi’n fy atgoffa o straeon Tales of the Unexpected a oedd ar y teledu 'nôl yn y 70au neu’r 80au. Ydych hi’n cofio'r rheiny?
Faswn i ddim yn galw Y Rhwyd yn nofel, a deud y gwir. Nofelig efallai, ond mewn gwirionedd stori fer hir ydi hi, a thro go hegar yn ei chynffon hi. Stori syml, afaelgar, gwirioneddol wreiddiol, ac mor arswydus ar adegau fel na allwn ddiffodd y golau ar ôl gorffen ei darllen hi!
Bachwch hi, chewch chi mo’ch siomi.
~Gwen Lasarus @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.