The long-awaited sequel to 'Hi yw fy Ffrind', which was shortlisted for the 2005 Book of the Year Award. The two friends, Nia and Non are now at University, but after the fun and drink we reach a shocking conclusion.
Braf oedd cael fy nhywys drwy goridorau gwallgof fy nyddiau yn neuadd Pantycelyn wrth ddarllen y nofel hon. Portread real ydyw o hynt a helynt y dyddiau hynny, y meddwi, y bitsio, yr hangovers a’r chwerthin. Mae’r diffyg sôn am unrhyw beth academaidd hefyd yn arwyddocaol iawn.
Fe gwrddwn eto â Nia a Non, dwy hen ffrind nofel flaenorol Bethan Gwanas, Hi yw fy ffrind. Fe gawn eu hanes, wrth i un fynd i’r coleg yn Aberystwyth gan adael y llall yn ôl gartref yng nghefn gwlad Meirionnydd. Gwelwn y berthynas yn chwalu’n llwyr o achos bradychiad dwfn wrth i’r nofel agor gyda Nia yn cael ei dal yn y gwely gyda chariad Non. Mae hyn yn rhoi diwedd sydyn i’w cyfeillgarwch. Ac felly fe welwn y ddwy yn ceisio ymdopi â’u bywydau newydd heb gefn a chymorth eu ‘chwaer gwaed’. Fe welwn yn ddiweddarach yn y nofel ailadeiladu perthynas wedi i dad Non farw, gan ddod â’r ddwy yn ôl at ei gilydd.
Ymgartrefa Non i fywyd domestig gwraig fferm, wrth i Nia geisio ennill ei phlwyf wedi graddio fel actores yn y ddinas. Fe welwn y ddwy yn tyfu ac yn aeddfedu drwy’r stori. Lleisiau gonest y ddwy sy’n siarad yn y nofel, yn hollol agored am bob agwedd o’u bywydau. Nid angel mo’r un o'r ddwy, ac nid yw un ohonynt, o reidrwydd, yn gymeriad hoffus. Serch hynny, maent yn sicr yn gymeriadau y gall unrhyw ferch yn ei hugeiniau cynnar (neu unrhyw ferch a fu unwaith yn ei hugeiniau cynnar!), uniaethu â hwy. O’r herwydd, fe awn yn fodlon ar y siwrnai gyda hwy, hyd at ddiweddglo echrydus o annisgwyl.
Llyfr o sex, booze a suicide yw hwn, ac mae’r ysgrifennu ffraeth yn gwneud ei ddarllen yn hollol hwylus a didrafferth. Chwa o awyr iach ydyw sydd yn sicr am apelio at y rheini ohonom sydd yng nghanol ffwlbri’r dyddiau hynny, yn ogystal â’r rheini sydd am ymgolli yn yr hiraeth am y dyddiau hynny a fu.
~Lois Barrar @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.