A lively novel portraying the friendship of two girls as they experience the joys and pains of growing up in rural Merionethshire between the 1960s and 1980s. First published November 2004.
Nofel fywiog yn portreadu cyfeillgarwch dwy ferch wrth iddynt brofi hwyl a dwyster tyfu i fyny yng nghefn gwlad sir Feirionnydd rhwng yr 1960au a'r 1980au. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Nhachwedd 2004.
~Publisher: Y Lolfa
Dros y blynyddoedd, mae Bethan Gwanas wedi profi ei gallu i ysgrifennu mewn nifer o arddulliau gwahanol, ac i gynulleidfaoedd amrywiol o bobl ifanc a phlant i deithwyr brwd, ac unrhyw un sydd wrth ei fodd â nofel dda a gafel ynddi.
Mae ei nofel ddiweddaraf, Hi yw fy Ffrind, yn adrodd hanes plentyndod a chyfeillgarwch dwy ferch syn tyfu i fyny mewn ffermydd cyfagos yn ystod chwe degau a saith degaur ganrif ddiwethaf. Mae Non a Nia yn gymeriadau cwbl wahanol iw gilydd. Un o nifer o blant mewn teulu mawr cartrefol yw Non, syn adrodd y stori, ac maen dipyn o domboi, yn hapus i fwynhau ei phlentyndod gwledig. Ar y llaw arall, mae Nia yn unig blentyn, sydd, wrth iddi dyfu, yn dyheu am wrthryfela a chael bod yn oedolyn cyn pryd.
Pe bair ddwy yn byw mewn tref, neun dod ar draws ei gilydd am y tro cyntaf yn eu harddegau, go brin y byddent yn ffrindiau, ond mae'r ffaith iddynt gael eu geni yng nghefn gwlad o fewn milltir neu ddwy iw gilydd yn eu taflu ynghyd, ac maer llw syn cael ei dyngu ym more oes, y byddant yn aros yn ffrindiau mynwesol am byth, yn gafael yn dynn yn y naill ar llall, er gwaethaf y tensiynau anochel syn codi rhwng y ddwy.
Er mai cymharol brin ywr digwyddiadau cyffrous ym mywydaur ddwy ferch, maer nofel yn darllen yn rhwydd iawn, ac yn ddarlun ardderchog o brofiadau ingol ieuenctid. Mae popeth yn cael ei deimlo ir byw, boed bleser neu boen, ac mae ansicrwydd a diffyg hyder y ddwy ferch yn cael ei bortreadu'n gynnil a sensitif iawn. Fel un fun tyfu i fyny yn ystod yr un cyfnod â Non a Nia, teimlaf i Bethan ddal llawer o naws ac ysbryd yr oes yn y nofel hon; wrth i mi ddarllen roedd yr atgofion yn llifo.
Gyda sôn bod dilyniant ar y gweill, gellid dadlau mai dyna lle bydd y gwir storin dechrau. Gyda diwedd dramatig y nofel, rydyn nin gwybod na fydd pethau fyth yr un fath i Nia a Non, ac maen arwydd o lwyddiant Bethan wrth greur cymeriadau fy mod i, o leiaf, am wybod beth syn digwydd ir ddwy lle maen nhw erbyn hyn, a beth yw eu perthynas.
Dyma lyfr sydd, unwaith eto, yn gwbl wahanol i lyfrau blaenorol Bethan, ond wrth ddarllen doedd gen i ddim amheuaeth fy mod mewn dwylo diogel ac yn mwynhau gwaith awdur aeddfed a dawnus.
~Catrin Beard @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.