A powerful novel relating the story of two elderly brothers and their sister who are held captive by family circumstances and by a life of hardship on a farm in rural south-west Wales, by a talented young writer. Winner of the Academi Book of the Year Award for 2005.
A strong novel relating the story of two elderly brothers and their sister who are held captive by family circumstances and by a life of hardship on a farm in south west rural Wales, by a talented young writer. Winner of the Academi Book of the Year Award for 2005. First published in November 2004.
~Publisher: Y Lolfa
LLYFR CYMRAEG Y FLWYDDYN, 2005 Braidd yn amheus oeddwn i cyn darllen Martha, Jac a Sianco, nofel ddiweddaraf Caryl Lewis. Meddwl fy mod am ddos arall o rywbeth tebyg i’r hyn a geir yn y gyfres nofelau Tomos a Marged. Ofnwn mai’r hyn a gawn fyddai ymdrech i ddyrchafu bywyd cefn gwlad Ceredigion hanner canrif a mwy yn ôl. Ond nid dyna sydd yma o gwbl, eithr nofel soffistigedig am ddau frawd a chwaer yn dygnu byw ar fferm y teulu yn y byd sydd ohoni heddiw. Gan nad yw Sianco ‘fel pawb arall’ mae’r gofal am y fferm yn disgyn ar ysgwyddau Jac a Martha. Maent fel pe baent wedi eu rhwymo wrth y pridd a heb fedru dianc rhagddo; yn gaeth i’r gorffennol, maent yn driw i werthoedd eu diweddar rieni, ac eto’n ddrwgdybus iawn o’i gilydd. Y cymeriad sy’n argyhoeddi leiaf yw Judy, ffansi ledi Jac. Cyw gog mewn nyth os bu un erioed. Saesnes na pherthyn iddi unrhyw rinwedd na dyfnder. Mae’n dod o’r un ysgol â’r cymeriad Paul Rushmere yn nofelau Islwyn Ffowc Elis. Trueni na pherthynai iddi beth o’r cymhlethdod sydd i’w gael yn y cymeriadau eraill. Cyfoethogir y gwaith gan dafodiaith Ceredigion, a thrwy’r amser rydym yn ymwybodol fod yr awdur yn adnabod ei chymeriadau a’i chynefin yn dda iawn. Ambell waith ceir disgrifiadau hyfryd o fyd natur a hyd yn oed enghreifftiau prin o ddealltwriaeth rhwng y tri. Ond drwy’r cyfan mae rhywun yn ymwybodol fod rhyw dynged sinistr yn aros y teulu. Mae presenoldeb bygythiol y brain yno i’n hatgoffa o hynny. Nofel eithafol o drist yw hon, ac er eich bod yn dyheu am ddianc rhag y diwedd anorfod, nid oes dihangfa i’w gael. Fe’ch tynnir i mewn i’w dyfnderoedd tywyll. Yn ddiweddar yr wyf wedi darllen nifer o nofelau Cymraeg rhyfeddol o dda. Ond mae Martha, Jac a Sianco yn gwbl arbennig. Mae hi ben ac ysgwydd uwchben popeth arall a ddarllenais eleni. Llyfr y Flwyddyn heb unrhyw amheuaeth.
~Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.