A humorous novel by a new author, and a familiar voice on Radio Cymru, Gwennan Evans. Bore Da follows the story of Alaw Mai a tireless worker on the Richie morning show on PAWB FM. One morning, she gets her big beak. Suitable for readers aged 14 years and above, and adults.
Nofel gan nofelydd newydd sy'n llais adnabyddus ar Radio Cymru - Gwennan Evans. Mae Bore Da yn dilyn hanes Alaw Mai sydd wedi gweithio'n ddiflino ar raglen radio foreol Richie ar PAWB FM. Ond, un bore, daw ei chyfle mawr... Nofel llawn hiwmor.
~Publisher: Y Lolfa
Os ydych chi'n gyfarwydd ag unrhyw waith yn y cyfryngau, yna byddwch yn gwybod bod y meicroffon yn arf hanfodol, ond hefyd yn arf gwbl beryglus. Un o’r camau pwysicaf ar ddiwrnod cyntaf darpar ddarlledwr yw ei rybuddio i beidio â rhegi na dweud dim nad ydyw am i rywun arall mewn stiwdio ei glywed! Mae hi’n ddigon hawdd gadael yr hen feic ’na ar agor! Wel, mae’n amlwg nad yw’r staff sy’n gweithio i raglen radio Bore Da yn ymwybodol o hynny nac yn ymwybodol chwaith o unrhyw god ymddygiad, yn y gwaith, na thu allan i ddrysau’r swyddfa!
Ie, stori ysgafn yw hon am gyflwynwyr rhaglen radio, ei chynhyrchydd, ei hymchwilydd, a phennaeth yr orsaf. Ac mae’r themâu i gyd wedi’u cynnwys yma – merch yn ei thridegau yn chwilio am ddyn, dynes hŷn yn ceisio adfer perthynas ac yn arbrofi gyda thriciau rhywiol, bod yn hoyw, meddwi, gwneud ffŵl ohonoch eich hun, methu delio â bywyd bob dydd, anffyddlondeb ayb.
Go brin, felly, y bydd hi’n gyfrol a fydd yn aros yn y cof, ond mae’n gyfrol ddigon ysgafn i'w mwynhau ar lan y pwll nofio yn ystod eich gwyliau haf, neu i godi'ch calon wrth ei darllen yng nghlydwch y tŷ ar noson aeafol. Mae Gwennan Evans yn gweithio i Radio Cymru, felly mae’r ochr dechnolegol yn gredadwy ac mae'n amlwg fod gan yr awdur ddawn ysgrifennu. Mae’r gyfrol yn llifo’n rhwydd gyda thestunau bachog i nifer o’r penodau.
Nid wyf yn siŵr, gyda llaw, am leoli'r darllediad allanol mewn lle penodol. Rwy’n dod o Langeitho ac mae yna ffermdy o’r enw Pencnwc ar y cyrion; ond does ’na ddim Ivoreen ond mae yno gwpwl o’r enw Ivor a Doreen! Un peth arall – mae'r gyfrol hon yn un o lyfrau Cyfres y Dderwen, cyfres sy’n cynnwys nofelau heriol ar gyfer yr arddegau, ond nid wyf i'n credu y dylai fod yn perthyn i'r gyfres honno. Nofel ar gyfer oedolion yw hon, heb os, ac un ddigon difyr hefyd!
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.