A title in the short and fast-paced series Quick Reads. For such a small country, Wales has produced some outstanding Olympic athletes and this book introduces us to several that have been successful in their events. The book gives an account of some of our Olympic heroes from the past, such as Lynn Davies and Colin Jackson.
Cyfrol sy'n olrhain hanes y Cymry a fu'n llwyddiannus dros y blynyddoedd - yr 20 medal aur, 11 arian ac 18 efydd, hyd yn hyn ...
~Publisher: Y Lolfa
Dyma gyfrol arall yn y gyfres hynod boblogaidd Stori Sydyn gan y Lolfa. Mae nifer o’r llyfrau yn y gyfres hon yn trin a thrafod enwogion ym myd chwaraeon gyda’r bwriad o ddenu darllenwyr a fyddai, efallai, yn ei chael hi’n anodd canfod rhywbeth at eu dant ymysg cynnyrch y byd cyhoeddi Cymraeg.
Fel un sy’n ystyried agor pecyn o fisgedi siocled yn dipyn o ymrafael, roedd darllen am gampau athletwyr megis Colin Jackson a enillodd 25 medal ym mhrif gampwriaethau ei faes yn ystod ei yrfa (er mai un fedal Olympaidd sy’n eu mysg – y fedal arian a enillodd yn Seoul yn 1998), yn agoriad llygad. Felly hefyd gampau enwogion megis Lynn Davies, Tom Lucy, Geraint Thomas a David Davies. Mae’r bennod sy’n olrhain gyrfa ddisglair Tanni Grey-Thompson yn sicr o godi cywilydd ar y rhai diog yn ein mysg – mae hi wedi ennill 16 o fedalau Olympaidd, gydag 11 o’r rheini’n fedalau aur!
Nid yr enwau ‘mawrion’ yn unig sy’n cael eu crybwyll yn y gyfrol hon: ynddi ceir nifer o enwau cwbl ddieithr i mi – pobl megis Paulo Radmilovic, a adnabyddir fel ‘Siarc y Taf’, ac a enillodd nifer o fedalau am nofio ac am chwarae polo dŵr ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.
Ceir pennod fer ar ddechrau’r llyfr yn adrodd peth o hanes y gêmau Olympaidd modern. Ac mae pob math o gampau megis marchogaeth a bocsio yn cael eu dathlu yn y gyfrol fechan a difyr hon, ac mae’n syndod faint o Gymry sydd wedi gwneud eu marc yn y gêmau Olympaidd.
Mae’r iaith yn syml ac yn rhwydd i’w darllen. Dyma lyfr sydd wedi dysgu llawer i mi. Byddaf yn rhoi tipyn mwy o sylw i’r digwyddiadau yn Llundain ym mis Awst yn sgil ei ddarllen.
~Janice Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.