A children's story about a 10 year old boy travelling from Aberdare to Patagonia. Daniel, who records events on the journey, hopes to share his experiences with his best friend Twm, one day.
Yn 1865 teithiodd cwch o’r enw’r Mimosa draw i Batagonia bell. Ar y cwch, roedd Cymry. Wrth gyrraedd, 'roedd lleisiau’n crynu, a dagrau o hapusrwydd yn llygaid sawl un'. Yn y llyfr hwn, mae hanes un bachgen a deithiodd ar y Mimosa a chawn ei hynt a’i helynt wrth i’w fyd newid am byth.
Ond gan ddechrau o’r dechrau, anodd iawn yw hi i Daniel adael ei ffrind gorau, Twm Hopcyn, ar ôl yn Aberdâr, ond mae Twm yn rhoi anrheg arbennig iawn iddo cyn iddo adael Cymru – Twm Bach, bachgen wedi'i greu o bren. Difyr dros ben yw gweld y daith hon trwy lygaid y ddau wrth iddynt gyfarfod cymeriadau fel Seth, a gweld rhyfeddodau megis morfilod anferth o fwrdd y llong.
Mae Dan yn tynnu lluniau Twm Bach yn ei lyfr er mwyn eu hanfon yn ôl at Twm Hopcyn, ac mae’r lluniau syml a naturiol hyn yn ychwanegu at hyfrydwch y stori hon. Ond y tu ôl i stori Daniel, mae hanes epig y penderfyniad anodd i deulu Cymraeg fynd yr holl ffordd i dde America, a'r rheswm dros eu penderfyniad pwysig. Ceir hefyd sôn am y gŵyr o Gymru aeth drosodd cyn taith y Mimosa, straeon am gyfarfod yr Indiaid brodorol a’r tir sych ac anodd i'w drin a oedd mor wahanol i Gymru. A wnaiff teulu Dan setlo yno am byth?
Mae hon yn stori hyfryd wedi'i hadrodd yn syml a theimladwy, ac yn adnodd i gynorthwyo plant ddysgu hanes y Cymry a’r Wladfa. Mae'n sicr yn llenwi ambell dwll yn nychymyg pob un ohonon ni am y daith ddewr honno dros 150 o flynyddoedd yn ôl.
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.