A historical novel for children about two Welsh friends who became enemies on the football field. On hearing the story of an exceptional football match between real enemies during the First World War - the British and Germans - they came to realise the value of true friendship. Tir na n-Og Award winner 2015.
Er mai teitl y nofel hon yw Y Gêm a bod y dudalen deitl yn ei disgrifio fel ‘nofel am heddwch yng nghanol y Rhyfel Mawr’, nid nofel am gêm bêl-droed nac am gadoediad yw hi o gwbl. Mae hi’n llawer mwy na hynny.
Oes, mae pennod ynddi sy’n disgrifio gêm a ddigwyddodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar Dir Neb ar ddydd Nadolig 1914 ac oes, mae disgrifiad byr o’r saib a fu yn yr ymladd, ond rhan yn unig yw hynny.
Nofel am gyfeillgarwch a gelyniaeth yw hon ac am gariad merch a gofal mam. Nofel ysgytwol hefyd am hiraeth ac am wallgofrwydd dyn. Yn gefndir i’r cyfan mae’r Rhyfel Byd Cyntaf, y digwyddiad a newidiodd gymdeithas am byth.
‘Does dim rhaid i rywun weld neu glywed rhywbeth i gael ei ddychryn, ’sti. Weithiau mae teimlo’n ddigon,’ meddai Gorwest y gwas ar gychwyn y nofel. Ond mae Tecwyn, bachgen deg oed ac un o brif gymeriadau’r nofel, yn gweld rhywbeth sydd yn ei ddychryn – yn ei ddychryn am ei fywyd. Bydd Alun, y prif gymeriad arall, hefyd yn gweld pethau fydd yn ei ddychryn weddill ei fywyd.
Er bod gen i fy amheuon a fyddai plentyn deg oed yn ymateb fel y gwnaeth Tecwyn i’r digwyddiad yn yr hen dŷ, mae’n rhaid cydnabod bod y dirgelwch a’r datgeliad ar y diwedd yn ychwanegu dirgelwch a dwyster at y nofel.
Llwyddodd Gareth F. Williams unwaith eto i blethu amrywiaeth o gymeriadau ac o emosiynau at ei gilydd mewn dull darllenadwy iawn.
Roedd chwarae’r gêm ar ddydd Nadolig ar Dir Neb, yn ôl Tecwyn, ‘wedi dangos nad oes yr un ohonon ni’r hogiau isio rhyfel o unrhyw fath, nad ydan ni isio chwarae eu hen gêm wirion nhw’. A dyna mewn brawddeg yw neges nofel ardderchog Gareth F. Williams.
~Gareth William Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.