'The Romans have magnificent weapons – but we the Britons have enough fire in our hearts to melt metal!' These were the words of Caradog, the bravest of kings. He is hero-worshipped by Morcant, the young Silurian, whose dream is to follow his hero to free his country from the Romans.
Nofel hanesyddol ddifyr am bwysigrwydd ffyddlondeb, gwerth cyfeillgarwch, ac ystyr perthyn yw Dilyn Caradog gan Siân Lewis. Mae’r stori yn dilyn hanes Brython ifanc o lwyth y Silwriaid o’r enw Morcant. Wrth i awdurdod y Rhufeiniaid gynyddu bob dydd mae’n rhaid i Morcant ddilyn Caradog, pennaeth ei lwyth, ar gais anturus i drechu’r Rhufeiniaid unwaith ac am byth a’u gyrru allan o’i famwlad a’r holl ffordd ar draws y môr yn ôl i Rufain, ond mae nifer o rwystrau yn eu llwybr megis bradwyr, rhyfela a chefnfor mawr dwfn.
Mae’r stori wedi ei seilio ar un o chwedlau enwocaf y Cymry, sef y chwedl am Caradog y Celt a gafodd ei gaethiwo gan yr ymerawdwr Clawsiws. Llwyddodd Caradog i ennill ei ryddid yn ôl wedi iddo wrthod moesymgrymu o flaen Clawsiws, ond mae gan y stori hon dro difyr wrth iddi gael ei ailadrodd o safbwynt newydd a gwahanol.
Drwy gydol y nofel unigryw a diddorol yma cedwir y darllenydd yn ysu i gael gwybod y cam nesaf yn hynt a helynt Caradog a Morcant. Mae’r diweddglo yn llwyr werth yr aros gan orffen gyda chlo annisgwyl a chyffrous iawn. Cyflwynir y llyfr mewn clawr syml ond effeithiol wedi ei ddylunio a’i ddarlunio gan Anne Cakebread.
Mae’r llyfr yn portreadu bywyd bob dydd Brython ifanc o lwyth y Silwriaid yn wych. Credaf fod y llyfr yma’n nofel dda a fyddai’n apelio’n arw at blant Blynyddoedd 5,6 a 7, er y gallai oedrannau eraill ei mwynhau hefyd.
~Awen M. Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.