Rachel Ross spends much of her time outside school caring for her mother, who suffers from depression, and her younger sister; but the highlights of her week are the drama group sessions she belongs to. She feels safe there ... a different experience to school, where she is bullied because of her disability.
Mae’n braf darllen llyfr Cymraeg sydd wedi cael ei osod mewn ardal fwy Seisnigaidd, sydd y tu allan i’r ‘Fro Gymraeg’ draddodiadol. Mae ’na blant a phobl ifanc yn byw mewn Cymru sy’n bell i ffwrdd o fyd dosbarth canol yr eisteddfodau, y capeli a chorau cerdd dant, a dwi’n meddwl bod y nofel yma’n adlewyrchu hynny.
Dwi’n falch fod yr awdur wedi gadael pytiau o ddeialog Saesneg yn y nofel sy’n adlewyrchu realiti ieithyddol y Cymry sy’n byw yn y gogledd-ddwyrain, mor agos at y ffin. Ni chawn ddarlun rhamantaidd o’r lle, ond un sy’n teimlo’n real iawn – ac un nad yw’n osgoi trafod y tlodi, y cyffuriau, y trais a’r strydoedd cefn drewllyd.
Merch ysgol uwchradd yw Rachel, y prif gymeriad, sydd â thipyn ar ei phlât. Oherwydd diffyg arian mae'r sefyllfa gartref yn bur ansefydlog. Mae ei thad yn gweithio oriau hir er mwyn crafu byw, mae ei mam yn byw ag iselder. Mae Rachel yn gorfod gofalu am ei chwaer fach a gwneud ei gwaith ysgol. Ar ben hyn oll, dysgwn fod Rachel yn amputee a bod ganddi goes brosthetig sy’n gwneud pethau’n anoddach fyth yn yr ysgol, ond dydi hi ddim yn un am gwyno. Mae’r ffordd y mae hi wedi dod i arfer â hyn ac yn dyfalbarhau yn dyst i’w chryfder fel person. Dwi’n hoff iawn ohoni fel cymeriad am ei bod hi’n siarad yn blaen a braidd yn fyrbwyll ar brydiau. Shoot first, ask questions later yw ffordd Rachel o daclo pob problem – ffordd dda o amddiffyn dy hun, efallai, ond gall arwain at greu helynt ...
Heb ddatgelu gormod, mae antur Rachel yn cychwyn ar ôl iddi benderfynu chwarae triwant o’r ysgol gyda’i ffrind ar ôl colli'r bws. Yn dilyn cyfarfod gyda dynion digon amheus mewn clwb nos, mae Rachel yn cyfarfod dyn sy’n gwybod lot mwy amdani hi nag y mae hi’n ei wybod amdano fo. Bydd yr hyn sydd ganddo i’w ddweud yn newid ei bywyd am byth!
Dyma nofel ffraeth a chyfoes sy’n berthnasol iawn heddiw. Er bod darnau doniol, mae’r nofel yn ymdrin â themâu fel bwlio a chamdriniaeth ddomestig. Nofel ychydig yn wahanol sydd yma ac un sy’n ychwanegiad pwysig i’r amrywiaeth o lyfrau Cymraeg fydd yn apelio at bobl ifanc. Er mai’r arddegau yw’r gynulleidfa darged, mi fydd oedolion yn sicr o fwynhau #Helynt hefyd. Dwi’n ffyddiog y bydd y nofel yn denu unigolion nad ydyn nhw’n darllen llyfrau Cymraeg fel arfer, a dwi’n annog athrawon i’w darllen er mwyn ei chyflwyno i’r disgyblion hynny.
~Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.