A Welsh adaptation by Eleri Huws of Alice Next Door, a contemporary story about eleven-year old Megan who finds it hard to cope at school and at home without the support of her best friend Alys, who has moved to live in the city.
Stori galonogol, lawn hiwmor am gyfeillgarwch a ffyddlondeb yw Alys Drws Nesa gan Judi Curtin (addasiad gan Eleri Huws). Mae’r nofel yn dilyn hanes dwy ffrind deuddeg oed, Megan ac Alys. Ar ôl i’w rhieni ysgaru, mae Alys a’i brawd bach yn gorfod symud o’u cartref yn Aberystwyth i Gaerdydd gyda'u mam. Mae hyn yn gadael Megan druan i ddelio â’i mam ei hun, sy’n siarad fel pwll y môr ac yn aml yn achosi embaras llwyr iddi, a’i harchelyn, Mirain Mai, ar ei phen ei hun bach. Wrth i’r ddwy ffrind gynllwynio’n gyfrinachol i aros gyda’i gilydd a chadw eu cyfeillgarwch yn fyw trwy guddio Alys yn llofft Megan, daw pob math o rwystrau i’w llwybr.
Drwy gydol y nofel wych yma cedwir y darllenydd ar flaen ei sedd wrth ganfod beth sy’n digwydd nesaf. Mae’r Gymraeg yn llithrig a hawdd ei ddarllen a chyflwynir y llyfr mewn clawr difyr ac atyniadol wedi ei ddarlunio gan Nicola Colton.
Woody Fox yw’r darlunydd sy'n gyfrifol am y nifer o gartwnau hwyliog sydd wedi’u gosod ar ddechrau pob pennod.
Mae’r nofel yn llwyddo i gyflwyno nifer o broblemau cyffredin merch ysgol Blwyddyn chwech mewn is-stori ddealladwy, yn ogystal â’r brif broblem fawr. Credaf fod y llyfr yma yn nofel wych a fyddai’n apelio’n fawr at blant Blynyddoedd 5 a 6, ond gallai oedrannau eraill ei mwynhau hefyd. Mae’r awdur wedi llwyddo'n effeithiol iawn i gyflwyno’r syniad o ddwy ferch ddiniwed mewn byd sy’n newid, er ei bod ar adegau yn fy atgoffa o nofel Jaqueline Wilson Best Friends.
~Awen M. Dafydd (10 oed) @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.