A book for Welsh learners, Entry Level. Elsa Bowen works as a private detective; she usually deals with insurance fraud. But that all changes on this Wednesday morning. Elsa B's attention is drawn to the bookshop in Caernarfon where strange things are happening. The story focuses on Lilith Lewis, a local gangster who causes trouble.
Mae’r nofel hon yn ticio sawl bocs:
1.)Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad, ac mae’r paragraff cyntaf mor syml: “Elsa Bowen dw i. Ditectif preifat dw i. Dw i’n byw yng Nghaernarfon.” Bydd yn rhoi hyder i’r dysgwr o’r cychwyn cyntaf. Mae’r ail baragraff yn defnyddio ‘roedd’ ac ‘mi wnes’ ac mae’r patrymau yn aros yn gyson syml at y diwedd. Ond mae’r awdur yn diwtor Cymraeg hynod brofiadol sydd wedi dysgu’r iaith ei hunan, flynyddoedd yn ôl, felly yn ddewis perffaith.
2.)Nofel dditectif ydi hi – rhywbeth prin yn y Gymraeg.
3.)Mae llawer o’r stori yn digwydd mewn siop lyfrau! Syniad gwych sy’n gweithio’n dda.
4.)Mae hi wedi ei lleoli yn y gogledd – Caernarfon, i fod yn fanwl gywir, ac mae llyfrau ar gyfer dysgwyr sydd wedi eu lleoli yn y gogledd, efo iaith ogleddol, wedi bod yn brin iawn tan yn ddiweddar.
5.)Nid addasiad mohoni, ond nofel wreiddiol o ben a phastwn Pegi, sy’n ei gwneud yn llawer mwy diddorol a pherthnasol.
6.)Merch gref yw’r prif gymeriad – a’r dihiryn.
7.)Mae’n perthyn i gyfres, sef Cyfres Amdani. Mae’r llyfrau i gyd wedi eu harchwilio’n ofalus gan yr un criw, felly bydd y patrymau iaith a’r eirfa yn gyson. Hefyd, maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, a dyma’r lefel gyntaf, felly bydd y dysgwyr yn gallu symud ymlaen gam wrth gam a thrwy hynny yn gweld y cynnydd yn eu gallu i ddarllen a deall Cymraeg.
8.)Mae ynddi luniau – rhai du a gwyn gan Hywel Griffith, yn arddull hen lyfrau ditectif. Maen nhw’n sicr yn ychwanegu at y testun ac yn help i gynnal y naws noir.
9.)Mae’r eirfa ar waelod pob tudalen ond hefyd mewn bold yn y stori, ac eto wedyn mewn rhestr yn ôl y wyddor yn y cefn. Defnyddiol iawn.
A be am y stori ei hun? Mae’n gweithio: ro’n i’n hoffi Elsa, y prif gymeriad yn arw. Fel pob ditectif da, dydi hi ddim yn berffaith. O ran y plot, ro’n i eisiau gwybod be oedd yn y llyfrau roedd y ‘gangsters’ yn dod i’w casglu o’r siop, ond wna i ddim difetha’r stori i chi fan hyn. Ac ro’n i’n arbennig o hoff o’r diweddglo, sy’n awgrymu’n gynnil bod mwy o helyntion Elsi i ddod. Ond dydi hi byth yn glawio yng Nghaernarfon go iawn, wrth gwrs!
~Bethan Gwanas @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.