A book for Welsh learners, Advanced Level. The story of two sisters who try to come to terms with their mother's illness, and its effect on their own lives. A Welsh adaptation by Elin Meek of Alan Maley's Forget to Remember.
Roeddwn i wrth fy modd yn darllen y llyfr yma, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Petai gen i amser ar y pryd, byddwn wedi gallu ei orffen mewn un eisteddiad.
Mae’r cymeriadau yn gredadwy – rydych yn teimlo fel eich bod angen dewis un ochr dros y llall wrth ddarllen am weithredu mewnol y teulu sy'n agos at drasiedi.
Dw i’n medru gweld pobl wahanol yn cefnogi cymeriadau gwahanol, yn dibynnu ar ba fath o berson y'ch chi. Mae yma'r dyn busnes efo calon garreg, sef Huw; y ferch Catrin sydd wedi newid llawer ers symud i fyny i’r gogledd; ei chwaer Siân gyda chalon mor garedig, a mam y teulu.
Mae'r hyn mae Elin Meek wedi'i wneud gyda’r llyfr wrth ei addasu yn wych. Mae hi wedi rhoi ychydig bach o ymdeimlad Cymraeg i eiriau Alan Maley heb dynnu gormod i ffwrdd o’i darged.
Yr unig beth dw i’n medru ei ddweud yn erbyn y llyfr yw ei fod yn 114 tudalen. Byddwn i wedi medru cario ymlaen i’w ddarllen am 100 tudalen arall, petai modd cael dilyniant.
Mae’r stori yn datblygu wrth inni droi pob tudalen ac mae’r stori yn ddigon i gadw eich diddordeb ac yn eich gadael chi ag awydd am ddarllen mwy. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau darllen rhywbeth lle maen nhw’n gallu uniaethu â’r stori. Dych chi’n teimlo bod popeth yn adeiladu wrth i’r stori symud ymlaen.
Roeddwn i synnu pa mor hawdd oedd y llyfr i’w ddarllen. Fel rhywun sydd yn ffeindio llyfr lefel uwch yn anodd weithiau, roeddwn i’n synnu pa mor hawdd oedd e i ddilyn y stori ac ymlacio wrth ddarllen.
Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen lefel uwch yn gyfforddus. Hefyd, os dych chi’n darllen lefel isaf ac eisiau datblygu eich sgiliau darllen rydw i’n medru dweud y bydd y llyfr hwn yn hollol addas i chi, yn enwedig gyda’r geiriau defnyddiol ar waelod pob tudalen.
Doeddwn i ddim yn ffeindio’r llyfr hwn yn anodd o gwbl ac yn fwy pwysig, roeddwn i’n mwynhau dod i nabod y cymeriadau. Roeddwn i’n ffeindio fy hun weithiau yn darllen yn hytrach na mynd i gysgu, pan ddylwn i fod wedi mynd i gysgu rai oriau yn ôl!
~Nicky Roberts @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.