A book for Welsh learners, Intermediate Level. A Welsh adaptation of Man Hunt by Richard MacAndrew, being a murder mystery set against the beauty of the Brecon Beacons.
Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf.
Mae'r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac fel hyn mae'r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei gynlluniau a'r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol, oherwydd ar y dechrau mae'r darllenydd yn gwybod beth mae'r llofrudd yn mynd i'w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn gwirionedd.
Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt cyffrous.
Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am seicoleg trosedd, sut mae'r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith.
Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y tudalennau yn ddefnyddiol.
~Rosina Roberts de Sousa @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.