A book for Welsh learners, Intermediate Level. In the small village of Tredafydd in the south Wales valleys, Megan and Huw become lovers. But will their love conquer the circumstances? Death, their families and years apart vie against them. A Welsh adaptation of Helen Naylor's Two Lives by Dwynwen Teifi.
Mae’r stori’n dechrau tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn dangos Megan a Huw, yn 15 ac yn 16 oed, yn cwympo mewn cariad. Ond wrth gwrs maen nhw’n rhan o’u teuluoedd mewn pentref glofaol yn y cymoedd, ac mae’r ddau’n ufuddhau i ofynion a disgwyliadau’r oes. Trwy hyn, maen nhw’n cael eu gwahanu, yn groes i’w hewyllys.
Wedyn, mae’r nofel yn neidio i oes newydd, tua diwedd yr ugeinfed ganrif. O ganlyniad i amgylchiadau newydd, daw cyfle i Megan a Huw i gysylltu â’i gilydd eto. Ond erbyn hyn maen nhw yn eu 60au ac mae’u sefyllfaoedd teuluol a chymdeithasol yn eu clymu mewn gwahanol ffyrdd. A fydd eu chwilfrydedd yn datblygu’n gariad eto, neu a fyddan nhw’n gweld bod pethau wedi newid? Mae rhaid darllen tan y diwedd i gael gwybod.
Mae’r cymeriadau’n hoffus, ac wrth ddarllen, trwy gydol y nofel, roeddwn i eisiau gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf. Mae tinc realaeth yn y stori, gyda’r sefyllfaoedd a’r teimladau cymysglyd yn cael eu portreadu mewn ffordd uniongyrchol, yn aml trwy ddeialogau byr. Rydym yn cwrdd ag aelodau o’r teuluoedd, ac er nad oes llawer o le i ymhelaethu ar bob un mewn nofel weddol fer, maen nhw’n argyhoeddi fel pobl go iawn, nid pobl wedi’u creu ar gyfer y plot yn unig. Mae naws wahanol bywyd yn y 1940au ac yn y 1990au hefyd yn argyhoeddi heb dynnu sylw.
Llyfr ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd yw hwn, yn rhan o'r gyfres Amdani. Mae’r stori afaelgar yn cael ei dweud mewn iaith weddol seml, gydag ychydig o eirfa ar waelod pob tudalen, a’r geiriau hynny wedi’u hamlygu gyda phrint trwm ar y dudalen. Ambell waith, credwn y byddai’n dda rhoi ychydig o gymorth gyda chystrawennau gramadegol, er enghraifft y defnydd o ‘safai’ yn lle ‘roedd yn sefyll’, a’r ‘un’ negyddol (‘Ddwedodd Huw’r un gair’). Mae’n debyg y bydd angen geiriadur wrth law hefyd, ond mae profiad Dwynwen Teifi o ddysgu Cymraeg i oedolion yn golygu bod geirfa’r nofel wedi’i dewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod y darllen yn brofiad heriol ond pleserus.
~Philippa Gibson @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.