Osian thinks the world of Gran, and the two always have lots of fun together. But when Gran starts struggling to look after herself, she has to live in a special home. The first Welsh-language story to discuss the condition Dementia from the perspective of a young child. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.
Mae Osian yn meddwl y byd o’i fam-gu ac wrth ei fodd yn treulio amser gwerthfawr yn ei chwmni. Ond gyda threigl amser mae Mam-gu yn dechrau mynd yn anghofus ac nid yw’n gallu gofalu amdani ei hun. Mae hi angen mwy o ofal na’r hyn y gall ei theulu ei gynnig, ac felly mae’n mynd i fyw i gartref lle bydd yna lawer o bobl addas sydd â’r arbenigedd i ofalu amdani.
Er bod Osian yn teimlo’n nerfus wrth fynd gyda’i dad am y tro cyntaf i’r cartref i weld ei fam-gu, buan iawn y diflannodd y nerfusrwydd a’r pryder gan fod yno gymaint o bethau newydd i’w gweld a phobl newydd i’w cyfarfod, yn arbennig Alun, ffrind Mam-gu. Mae Osian yn methu deall pam mae Mam-gu yn gas wrtho weithiau a ddim yn ei adnabod ar brydiau. Ond er ei bod yn byw mewn cartref gofal mae Mam-gu yn mwynhau adrodd straeon am ei bywyd ac mae’r ddau yn gallu gwneud llawer o bethau gyda’i gilydd.
Mae dementia yn gysyniad anodd i’w egluro i blant ac yn enwedig i blentyn mor ifanc ag Osian, a ddarlunnir yn y gyfrol hon. Ond llwyddodd yr awdur i sgrifennu stori gynnes sy’n dangos bod Mam-gu yn cael ei charu ac yn dal yn rhan o deulu cariadus er gwaethaf ei gwaeledd.
Mae’r addasiad yn agos atoch chi a sensitif, a darluniau gwreiddiol Jessica Shepherd yn ei llyfr stori-a-llun cyntaf yn cydweddu’n berffaith â’r pwnc dan sylw. Diau y bydd y tudalennau ffeithiol yng nghefn y llyfr sy’n trafod dementia o gymorth i oedolion drafod y gwaeledd ac i blant siarad am eu pryderon a’u teimladau.
~Menna Lloyd Williams @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.