Grandpa gives me rainbow pencils, and tells me: Write and draw pictures, write and draw pictures of all your dreams. A charming picture book about the love between a young girl and her grandfather, and about keeping that love alive through memories.
Llyfr stor-a-llun clawr caled sy’n ymdrin ag ambell bwnc digon anodd a heriol yw Petai’r byd i gyd yn …, addasiad o gyfrol wreiddiol gan yr awdur, bardd a’r dramodydd Joseph Coelho a’r arlunydd arobryn Allison Colpoys.
Ar yr olwg gyntaf, ymddengys fel cyfrol syml ddigon, wrth i’r awdur fynd â ni ar daith unigryw drwy gyfnodau’r flwyddyn, sydd hefyd yn cynrychioli cyfnodau bywyd dyn. Ond mae’r themâu o golled, hiraeth ac atgofion yn ei dyrchafu i dir ingol a theimladwy uwch wrth i wyres ddisgrifio’r berthynas arbennig rhyngddi hi â’i thaid, ac yn ddiweddarach ddygymod â’r hiraeth o’i golli a’r drysorfa o atgofion sydd ganddi amdano.
Mae’r stori’n llwyddo i ganfod rhyw gydbwysedd rhwng hiraethu am golled ac ymhyfrydu mewn bywyd a dathlu atgofion. Llwydda hefyd i gyflwyno colled a’r modd yr ydym yn hiraethu am anwyliaid ochr yn ochr â’r cysur a geir oddi wrth atgofion.
Mae’r iaith yn delynegol ac yn cyd-fynd yn hyfryd â’r arlunwaith unigryw, sy’n gyfoethog a blodeuog ac yn hwyluso’r llwybrau i fyd y dychymyg, sy’n rhan mor greiddiol o’r stori, ac yn siŵr o gynnig cysur i unrhyw blentyn sy’n wynebu colli rhywun sy’n agos atynt. Pendilia’r arlunwaith o’r prysur i’r tawel, gan gynnig amrywiaeth hyfryd o un dudalen i’r llall drwy’r gyfrol.
Elfen ychwanegol yw’r cefndir diwylliannol gwahanol sydd i’r gyfrol a’r cymeriadau BAME sy’n ganolog iddi. Daw hyn â lliw a chyfoeth ychwanegol i’r stori, yn enwedig wrth i Taid adrodd hanesion amrywiol o’i orffennol i’w wyres fach. Ceir sôn am deigrod, nadroedd a melysion Indiaidd, a cheir gwerthfawrogiad hefyd o bethau syml bywyd, yn cynnwys teganau ail-law, pensiliau a phaent lliw a mynd am dro law yn llaw yng nghwmni rhywun annwyl. Mae cymaint o’r themâu yma mor berthnasol i’r cyfnod rydyn ni’n byw ynddo heddiw a’r modd yr ydym i gyd wedi gorfod ailasesu ac ailwerthuso ein bywydau yn sgil y pandemig byd-eang.
Efallai nad hon yw'r gyfrol stori-cyn-cysgu gyntaf y byddai plentyn neu riant yn gafael ynddi bob nos, ond cyfrol sy’n bendant yn werthfawr ar sawl lefel arall. Cyfrol i’w darllen ar y cyd, i fyfyrio drosti, ond hefyd i’w gwerthfawrogi a’i mwynhau.
~Cyhoeddwr: Atebol

~Sioned Lleinau @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.