BlinG is a series of factual books which introduces a topic in an interesting, informal and contemporary style. The first title deals with the world of showbiz and fame. Suitable for children between 10 and 14 years old.
Wyddoch chi beth oedd enw albwm cyntaf Duffy?
Oeddech chi’n gwybod mai dim ond un llun werthodd Van Gogh yn ystod ei oes?
Hoffech chi wybod beth yw tips Connie Fisher er mwyn medru canu’n dda?
Mae Dwi eisiau bod yn enwog! yn rhan o BlinG, cyfres o lyfrau darllen ffeithiol sy’n cyflwyno gwybodaeth mewn pytiau difyr a diddorol. Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau am bobll enwog, o Gymru a gweddill y byd, o Shaheen Jafargholi, i Simon Cowell! Bydd unrhyw un sydd â sêr yn ei lygaid yn mwynhau’r llyfr yma, ac mae hefyd yn llyfr da i'w drafod yn y dosbarth.
Mae’n edrych ar ddwy ochr enwogrwydd, yr ochr dda mae pawb yn ei gweld - y dillad, yr arian, a’r partïon, ond mae hefyd yn dangos nad yw bywyd o'r fath yn fêl i gyd. Mae pobl yn gallu dioddef straen, gorweithio a chael sylw negyddol gan y cyfryngau.
Mae’n llyfr lliwgar iawn, yn gymysgedd o luniau a ffeithiau di-ri. Gallwch gydio ynddo a darllen tameidiau bach ar y tro, ac mae’n werth cofio’r gair o gyngor sydd ar y diwedd - byddwch yn garedig ac yn glên wrth bawb wrth ddringo’r ysgol. Mae’n bosib iawn y byddwch yn cwrdd â nhw eto ar eich ffordd i lawr!
~Erin Gruffydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.