A tender and sensitive bedtime story for a parent to present the wonders of the natural world to a child. We follow the whole day from dawn to dusk as we read about the wonderful world that awaits the child. The five senses are used as the medium to show the range of experiences found in the world of nature. English translation of the text inside back cover.
Yn awdur ac arlunydd llyfrau stori-a-llun o’r radd flaenaf, mae gwaith ffres a thrawiadol Luned Aaron wedi hen ennill ei blwyf bellach ar ein silffoedd. Enillodd ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur, wobr Tir na n-Og, ac â’r gyfrol hon, Mae’r Cyfan i Ti, â ni i’r un tir uchel.
Mae hon yn gyfrol stori-a-llun hynod safonol, wrth i’r awdur dywys plentyn drwy ddiwrnod ar ei hyd. Yn syml a sensitif iawn o ran y dweud, mae ei harddull mydr ac odl ddiniwed yn ddelfrydol ar gyfer oed meithrin, gan gyfleu’r elfen o ryfeddod sy’n perthyn i agwedd plant o’r oed hwnnw at y byd o’u cwmpas i’r dim. Caiff hynny wedyn ei gyfuno â nostalgia ac elfen o gyfrifoldeb o du’r oedolyn sy’n cynnal ymgom â’r plentyn drwy gydol y gyfrol.
Tanlinella deitl y gyfrol fyrdwn y stori mewn gwirionedd. Wrth i’r awdur ddefnyddio’i synhwyrau dynnu sylw’r plentyn at holl gyfoeth byd natur o’i gwmpas – y blodau a’r adar, y pryfed a’r pysgod, y ffrwythau a’r awyr – pwysleisia hefyd mai dyma yw ei etifeddiaeth a’i ddyfodol. Mae’r lliwiau a’r holl aroglau’n hudolus ac yn bethau i’w gwerthfawrogi bob dydd, ond eto’n fregus. Ceir awgrym, felly, fod gan yr oedolyn gyfrifoldeb i amddiffyn yr holl ryfeddodau yma ar gyfer y genhedlaeth i ddod: ‘Mae’n fyd o ryfeddod, a’r cyfan i ti’. O’r pethau bychain y daw’r cyfoeth mwyaf, yng ngolwg yr awdur.
Ochr yn ochr ochr â diniweidrwydd y dweud, ceir diniweidrwydd hefyd yn y lluniau hyfryd sy’n cyd-fynd â’r testun. Mae’r lliwiau’n ffres a’r delweddau’n amrywio o luniau clytwaith syml i arddull mwy peintiedig a medal. Yn ychwanegol at hyn hefyd, mae tudalen olaf y gyfrol yn cynnwys fersiwn Saesneg o’r testun ar ffurff cyfieithiad yn hytrach na mydr ac odl, sy’n agor y drws ar gynulleidfa ehangach.
Cyfrol gwtshlyd, berffaith i’w darllen cyn mynd i gysgu, fydd yn eich gadael yn teimlo’n gynnes ac yn fodlon iawn eich byd, beth bynnag eich oedran.
~Sioned Lleinau @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.