A book for Welsh learners, Entry Level. We follow the stories of people living on the same street in a Welsh town. What secrets do they have and do they really know their neighbours?
Fel un sy’n hoff iawn o waith y llenor Manon Steffan Ros, a minnau’n diwtor Cymraeg i Oedolion, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael darllen ei chyfrol Stryd y Bont, sy’n rhan o gyfres Amdani yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r gyfrol yma wedi’i hysgrifennu ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad, felly mae’n addas i ddechreuwyr sydd wedi bod yn dysgu am flwyddyn neu ddwy. Ychwanegiad bach difyr arall ydy’r darluniau gan y cartwnydd Huw Aaron, sy’n britho’r gyfrol drwyddi draw.
A chefais i mo fy siomi. Mae gan Manon Steffan Ros enw da am ei dawn dweud cynnil a ffraeth a’i straeon gafaelgar ac mae Stryd y Bont yn stori sy’n gafael yn y dychymyg o’r cychwyn cyntaf. Mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu cymeriadau crwn a chredadwy, ac mae hi’n llwyddo i’w cyflwyno yn effeithiol a lliwgar mewn ychydig iawn o eiriau, gan ddefnyddio iaith syml, addas i ddysgwyr Cymraeg sy’n ddechreuwyr ond heb fod yn nawddoglyd.
Mae Stryd y Bont yn dilyn trywydd un stori, gyda phob pennod yn canolbwyntio ar gymeriadau sy’n byw mewn gwahanol dai ar hyd un stryd dros gyfnod o tua dau ddiwrnod. Ym mhob pennod, rydyn ni’n cael safbwynt cymeriad gwahanol a’u fersiwn nhw o ddigwyddiad sy’n troi o amgylch un cymeriad, sef Dewi, sy’n byw yn Rhif 1 Stryd y Bont.
Llwydda’r awdur i osod awyrgylch o gyffro a chwilfrydedd, ynghyd ag elfen o ddrama yn gynnar iawn yn y gyfrol. Erbyn yr ail bennod, pan fyddwn ni’n cael golwg ar y cymeriadau sy’n byw yn yr ail dŷ ar y stryd, mae’r stori eisoes yn gafael ac roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau darllen ymlaen.
Mae’r iaith yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad gyda geirfa briodol ar waelod pob tudalen. Mae’r geiriau sy’n cael eu cynnwys yn yr eirfa mewn print trwm, felly mae’n haws i’r darllenydd wybod os oes angen troi at gymorth ychwanegol gydag unrhyw ystyron. Efallai, ar lefel dechreuwyr fel hyn, y byddai hyd yn oed ragor o eiriau yn yr eirfa o gymorth, er mwyn cynorthwyo llif y darllen i’r rheiny sydd ddim am bori mewn geiriadur trwy gydol y profiad o ddarllen. Yn ogystal â geirfa ar bob tudalen, mae’r holl eiriau sy’n cael eu rhoi trwy gydol y llyfr wedi’u casglu ynghyd yn y cefn. O bosib, mae ambell batrwm eithaf diarth i ddysgwyr a dechreuwyr Mynediad 1 (er enghraifft, ‘ei hesgidiau’ ac ati) ond ar y cyfan, mae’r cynnwys a’r lefel yn ddigon heriol ond heb fod yn rhy hawdd chwaith.
Mae’n braf iawn darllen rhyddiaith greadigol wedi ei hanelu at oedolion, mewn iaith sy’n addas i ddysgwyr ei darllen. Fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, buaswn yn argymell y llyfr yma i fy nysgwyr i.
~Mererid Haf Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.