AUDIO BOOK. A book for Welsh learners, Foundation Level, comprising short stories all related to a specific Rhondda valley village.
Mae hwn yn llyfr gwych i ddysgwyr.
Dwi’n hoff iawn fod y geiriau trwm yn dangos i fi pan mae gair wedi cael ei gyfieithu ar waelod y dudalen. Mae hyn yn golygu does dim rhaid i fi chwilio am eiriau sydd ddim wedi cael eu cyfieithu. Dyw llif fy narllen i (araf) ddim yn cael ei amharu.
Mae llawer o ddisgrifiadau o olygfeydd a lleoedd yn y dref. Gyda iaith lafar ddefnyddiol fel o'r blaen ac ar bwys a I lawr o brif ffordd Ystrad mae canolfan chwaraeon, mae disgrifiadau o lefydd sydd yn iaith gyffredin bob dydd, yn dda i fi ymarfer nhw. Dwi’n mwynhau’r disgrifiadau o enwau lleoedd hefyd.
Fel dysgwr, mae pob stori yn ddigon byr i fi ddarllen mewn un tro a galla i ddeall y rhan fwyaf o eiriau. Galla i gael synnwyr o'r brawddegau os yw geiriau yn anghyfarwydd. Dydw i ddim wedi bod i'r Rhondda ond mae'r straeon hyn yn rhoi synnwyr da o'r lle. Cymunedau agos, cymeriadau, hwyl a jôcs, a hefyd synnwyr o'r goedwig a'r mynyddoedd.
Mae'r straeon wedi’u hysgrifennu yn y gorffennol ac mae pob stori am ddigwyddiad bach. Un stori wnes i fwynhau yn arbennig oedd y disgrifiad syml o'r awdur a'i wraig yn ffeindio tŷ ble "rwy'n gallu ffitio drwy'r drws, felly ro'n i'n hapus!" Dwi wedi mwynhau darllen y llyfr a byddwn i’n ei argymhell i ddysgwyr eraill.
~Anthea Filmer @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.