A book for Welsh learners, Advanced Level, being a collection of short stories by well-known authors. The volume comprises 25,000 words and has a glossary. Edited by Rhiannon Thomas, a tutor specialising in the field of teaching Welsh to adults.
Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at gael blas ar y gyfrol hon o straeon byrion am fod y cyfraniadau gan nifer o awduron dw i’n mwynhau darllen eu gwaith nhw. Mae’r casgliad wedi ei anelu at ddysgwyr Lefel Uwch a’i gyhoeddi fel rhan o’r gyfres Amdani, ond mae’n siŵr y bydd yn apelio at gynulleidfa ehangach sy’n mwynhau stori fer (ac efallai’r rheiny sydd ddim yn darllen llawer yn y Gymraeg ac sy’n gwerthfawrogi cael geirfa barod wrth law).
Mae’r gyfres Amdani yn adnodd newydd a chyffrous i ddysgwyr ar bob lefel (a’u tiwtoriaid!), ac mae’r llyfrau wedi eu teilwra i gyd-fynd â’r cyrsiau cenedlaethol a gyflwynwyd dros Gymru gyfan am y tro cyntaf eleni.
Erbyn i ddysgwyr gyrraedd Lefel Uwch mi ddylen nhw fod wedi dod ar draws y rhan fwyaf o'r amseroedd a'r patrymau iaith y byddan nhw’n eu gweld yn y straeon hyn. Mi wn i o brofiad bod darllen yn gyfle gwych i ddysgwyr ddod yn fwy cyfarwydd â phatrymau iaith, yn ogystal â’r defnydd o idiomau; rhywbeth a all beri penbleth i'r dysgwyr mwyaf profiadol o dro i dro! Yn hynny o beth mae’r eirfa sydd wedi ei chynnwys ar waelod pob tudalen yn ddefnyddiol tu hwnt, a’r cyfieithiadau o’r idiomau’n hanfodol!
Mae ’na straeon o bob math yn y casgliad, boed hynny'n straeon ffraeth, arswydus, dyfeisgar, neu rai sy’n delio â phroblemau ein cymdeithas gyfoes, ac mae cliw i hyn yn enw’r llyfr! Mi wnaeth un stori fy ngadael efo mwy o gwestiynau nag atebion, ond efallai mai dyna oedd bwriad yr awdur. Ond dyna beth sy’n ddiddorol am y grefft o ysgrifennu straeon byrion – caiff awduron ddangos ochr arall i’w hysgrifennu ac arbrofi efo dulliau a strwythurau amgen.
O ran lefel yr iaith, dw i’n meddwl y bydd y casgliad yn dipyn o her i ddysgwyr sydd newydd gyrraedd Lefel Uwch, ond fel mae'n digwydd, 'Her’ ydy thema Uned 1 y Cwrs Uwch newydd! Dw i’n sicr y bydd y cymysgedd o ddulliau a thafodieithoedd sydd i’w darllen rhwng cloriau Cawl yn her y bydd dysgwyr (ac eraill) yn ei mwynhau’n fawr.
~Neil Wyn Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.