An adventure novel for the early teens - the first novel by the author of the stories about popular detective Taliesin MacLeavy. The hero is 15 year old mute, Manawydan Jones, who discovers that he is descended from Manawydan fab Llŷr of the Mabinogi. An easy read with serious themes, presenting a modern look at some Mabinogi tales for a young audience.
Nofel hynod ddyfeisgar ac anturus ar gyfer arddegwyr neu oedolion ifanc sy’n cyfuno’r byd modern â chwedlau Cymru mewn modd hynod glyfar a dychmygus. Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fel nofel digon swmpus, ond mae’r modd y cynlluniwyd hi ar ffurf chwedeg chwech o benodau byrion, cryno a bachog, gan gyfuno naratif ac ymsonau person cyntaf, yn ei gwneud hi’n nofel afaelgar o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r nofel yn agor yn llawn dirgelwch mewn swyddfa heddlu fodern yng Nghaerdydd. Mae corff wedi’i ganfod yn yr afon Taf, ac er mawr syndod i’r Ditectif Saunders sy’n gyfrifol am arwain yr ymchwiliad i’r achos, defnyddiwyd cleddyf i’w lofruddio. Caiff chwilfrydedd y darllenydd ei danio ymhellach wedyn yn yr ail bennod, wrth i leoliad y nofel symud i Ganolbarth Cymru gydag ymddangosiad y gŵr mewn hen siaced ledr ddu â chraith fawr ar draws ei wyneb. Does dim amheuaeth fod rhywbeth sinistr iawn ar waith, a chyfrinachau’n drwch ymhob man. A dyna pryd y cawn ein cyflwyno i brif gymeriad y nofel, Manawydan Jones, pymtheg oed, a hynny ar un o’r dyddiau mwyaf tyngedfennol yn ei hanes byr.
Yn dilyn mawolaeth ei dad bedair blynedd ynghynt, dydy Manawydan ddim wedi gallu siarad. Mae’n hollol fud. Ond fel darllewyr, down ni i’w adnabod yn dda drwy’r dechneg ymsonau y mae’r awdur yn ei defnyddio i gyfleu ei feddyliau. Hyd yn oed pan gaiff ei gyflwyno am y tro cyntaf erioed i Pritch, brawd ei dad na wyddai ddim am ei fodolaeth, dydy’r darganfyddiad hwnnw ddim yn ei annog i siarad. Ei ewythr Pritch wedyn, sy’n allwedd i agor y drws ar anturiaethau i fyd y Mabinogion, na wyddai Manawydan fawr amdanynt chwaith, gan arwain at ddatgelu nifer o gyfrinachau a dirgelion annisgwyl, yn cynnwys y Gallu, sef pwer arbennig oedd yn bodoli yn oes y Mabinogi. Yn ôl Pritch hefyd, roedd y Gallu wedi’i basio ymlaen drwy’r canrifoedd at genhedlaeth Llwyd, tad Manawydan, a maes o law at Manawydan ei hun hefyd.
Dyna’r cefndir, felly, ac o hynny ymlaen, cawn ddilyn anturiaethau o fyd y Mabinogion, Pritch a’r Cyfeillion, er cymaint yr oedd Glenda, mam Manawydan, wedi ceisio’i amddiffyn rhag y byd creulon hwnnw. Cawn gyfiawnhad pellach o sail pryder Glenda o ddarganfod pwy yw’r corff a ganfuwyd yn yr afon Taf. Ond dim ond dechrau’r stori yw hynny hefyd.
Mae gweddill y nofel yn reiat o anturiaethau, cyffro, cymeriadau lliwgar, Profion, tasgau a heriau, brwydro, trais, tywallt gwaed, dirgelion a datrys cyfrinachau o fyd y chwedlau ac yng nghyswllt tad Manawydan, wrth i’w fab ddysgu’r gwir amdano. Mae’r gyfeiriadaeth at gymeriadau a hanesion o fyd y chwedlau Cymreig yn drwch drwy’r nofel ac yn chwarae rhan flaenllaw iawn yn natblygiad cymeriad Manawydan wrth i’r stori fynd rhagddi. Serch hynny, dyw’r cyfeiriadau hynny ddim yn llethol, gan fod arddull gyfoes yr awdur a’r modd y mae wedi cyfuno’i linynnau storïol, o’r gorffennol a’r presennol, a’i ddefnydd slic o ddeialog a naratif ar y cyd, yn llwyddo i gynnal diddordeb y darllenydd drwyddi draw.
Fe allen i ddatgelu llawer mwy, ond wna i ddim, am y buaswn i’n eich annog i brynu’r nofel, waeth beth eich oedran. Darllen difyr a dweud y lleiaf!
~Cyngor Llyfrau Cymru
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.