A book for Welsh learners, Foundation Level. One Night. One street. And everyone in every house has a problem. How will Nina tell Dafydd the news? Why does Magi have o rethink her relationship with Xavier? What will Sam do about his big problem? How will Huw's life change forever? One Friday night will change everything.
Dyma nofel afaelgar sy’n ennyn chwilfrydedd y darllenydd. Mae’n cymryd ychydig o amser i weld sut mae cymeriadau’r stryd yn cydblethu â’i gilydd, ond dyma ran o apêl y stori. Mae’n anodd peidio â’i darllen hi i gyd ar unwaith, ac mae'r elfen o ddirgelwch yn apelio.
Dych chi wir yn gallu ymdeimlo â’r cymeriadau, yn uniaethu â gorbryder y fam, gorhyder y mab, yn ogystal â thrigolion eraill y stryd. Mae’r rhestr eang o eirfa ar waelod pob tudalen yn help mawr i ddysgwyr. Yn y bôn, dyma stori wych sy’n gwneud beth mae pob stori dda’n ei gwneud – eich taflu i ganol pob sefyllfa.
Mae’r arddull yn ogleddol ac felly’n heriol o bosibl i ddysgwyr o’r deheubarth. Darllenais bennod ohoni gyda fy nysgwyr ar lefel Canolradd (er taw at ddysgwyr ar lefel Sylfaen y mae wedi’i hanelu) a’u barn nhw oedd y bydden nhw wedi ei gweld hi’n anodd deall y cystrawenau gogleddol flwyddyn yn ôl. Mae’r defnydd o’r gair “rŵan” er enghraifft yn gyson ac wrth reswm yn hollol naturiol i ogleddwyr, ond nid yw dysgwyr pur ar lefelau is yn y de yn gyfarwydd â’r gair hwn o gwbl.
Pwysigrwydd y gyfres hon yw ei bod yn caniatáu i berson ag ychydig iawn o Gymraeg fedru teimlo “dw i’n medru darllen nofel gyfoes gyfan”. Mae hyn yn dra phwysig ac eto teimlaf y dylid bwrw ati i ysgrifennu llyfrau tebyg mewn tafodiaith ddeheuol. Gellid cadw ieithwedd y llyfrau yn fwy niwtral neu greu dau fersiwn o’r stori, fel rydyn ni’n ei wneud gyda’n llyfrau a’n deunyddiau cwrs.
~Rhiannon Taylor @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.