A book for Welsh Learners, Foundation Level. Sam feels confined in the wrong body and wishes to change sex. The book deals with a sensitive subject as we follow the main character's frustration and the response of those closest to him.
Mae Amdani yn gyfres newydd sbon i ddysgwyr Cymraeg ac yn mynd i'r afael â themâu’r byd modern. Ar gyfer lefel Sylfaen mae Samsara ac yn sicr, mae hi’n enghraifft lwyddiannus, wrth i ni ddilyn stori Sam sydd yn gaeth yn ei gorff ei hun ac yn ysu i fod yn ddynes.
Yn y nofel, mae pob pennod o safbwynt Sam a'r bobl o'i gwmpas ac felly rydyn ni'n gweld sut mae pob un cymeriad yn dygymod â datgeliad Sam. O'r dechrau pan mae Sam yn eistedd mewn caffi, mae'n amlwg ei fod o ofn cariad ac ofn caru. Y person agosaf yn y byd i Sam ydi ei chwaer. Mae'r ddau hyd yn oed yn byw gyda'i gilydd ac wedi helpu ei gilydd trwy boen teuluol, ond mae'r berthynas hon ar fin rhwygo.
Mae Sam yn athro yn yr ysgol ac wrth iddo wynebu staff yn ogystal â'r plant a phawb yn sylwi ar ei arferion merchetaidd, does dim troi'n ôl. Wrth i Sam geisio ymdopi, mae pob perthynas yn ei fywyd yn cael eu profi i'r eithaf. Yma, mae Sonia Edwards wedi creu cymeriadau real ar y naill law, yn dangos pa mor agos ydi Sam at y bobl yn ei fywyd, ond hefyd yn dangos unigrwydd ofnadwy wrth i Sam geisio byw yn ei gorff ei hun.
Pont ydi lefel Sylfaen – rhwng adnabod patrymau iaith defnyddiol yn dda a magu hyder i fentro go iawn i dir siaradwyr iaith gyntaf – ac mae Sonia Edwards wedi llwyddo gyda'r nofel hon. Dydi'r darllenydd ddim yn gallu dweud bod hon yn nofel i ‘ddysgwyr yn unig’ ac mae hynny'n rhywbeth i'w ganmol. Mae'r brawddegau yn fyr heb fod yn hirwyntog a'r eirfa yn help ar bob tudalen.
Mae yna gymysgedd o heriau a phatrymau iaith syml yn y nofel hon i chi allu ei mwynhau, ac yn fwy na dim, mae'r stori yn gredadwy. Pan mae rhywun yn dweud 'themâu cyfoes', mae'r storïau weithiau yn gallu bod yn ystrydebol, ond ddim yn y nofel hon. Fel rhywun sy'n darllen trwy'r amser er mwyn ymarfer ieithoedd, deallaf ei bod yn bwysig i ddysgwyr iaith beidio â bod yn gaeth i lyfrau 'dysgwyr yn unig' ac i blymio i'w canol, cymryd eu hamser i'w darllen, a mwynhau'r broses o ddysgu geiriau a phatrymau newydd. Yn sicr, mae digon yn y nofel hon i deimlo'n gyffyrddus ac i deimlo her.
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.