Glan Davies is a familiar Welsh personality throughout Wales after a long career as a performer on concert and television platforms. He has acted in films and popular programmes on S4C including Pobol y Cwm. He has worked with many figures in the entertainment business such as Dafydd Iwan, Ryan and Ronnie and Gari Williams, and has an abundance of entertaining stories to relay.
Dyma hunangofiant o’r cymeriad adnabyddus a hoffus Glan Davies, wedi ei lunio gan ei ffrind Alun Wyn Bevan – y ddau yn arfer byw ar yr un stryd ac felly'n gymorth i'w gilydd wrth brocio’r cof a chofnodi straeon eu hieuenctid. O fewn y cloriau ceir 220 tudalen o atgofion difyr, dylanwadau a phrofiadau cofiadwy.
Pwy yn wir fedrai ddychmygu fod cynifer o enwogion wedi dod o ran mor arbennig o dde Cymru, sef Brynaman ac ardal y Gwter Fawr. Mae yna ddisgrifiadau hyfryd ac ambell gerdd yn olrhain hanes y fro hon, lle'r oedd y pyllau golo yn ganolog yn y gymdeithas, megis hon o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg:
Wyth awr o weithio
Wyth awr yn rhydd
Wyth awr o gysgu
Ac wyth swllt y dydd.
Mae'r hunangofiant yn dangos sawl elfen wahanol ar fywyd yr amryddawn Glan Davies – yr actor, y gweithiwr, y digrifwr, y trefnydd teithiau, a'r dyn a fu'n gwirfoddoli i godi arian i amryw o achosion da, ac sy'n dal ati. Cawn yma hefyd hanesion ei gyfoedion a’i gyfeillion. Cyflwynir hyn i gyd gydag elfen iach o hiwmor a sawl cyfeiriad at ei wraig Aeres a’r dylanwadau ar ei fywyd.
Yn naturiol ddigon, mae yna gyfeiriad at y siomedigaethau e.e. pan na lwyddodd i basio ei arholiad 11+, ond mae'n cyfeirio at y ffaith iddo gael swydd pan oedd yn bymtheg a phum mis oed, “a hynny ar gyflog o dair punt yr wythnos. Big bucks!”
Ceir lluniau difyr ohono sy’n dod â gwen i’r wyneb ac yn dwyn sawl atgof i'r cof. Mwynheais weld y llun o gylchgrawn Sbec oedd yn rhoi sylw i actorion y dydd megis Ryan a Ronnie, a’r llun o Glan yn dywysydd parêd Gwyl Ddewi yn Aberystwyth, braint y mae'n falch iawn ohoni. Y dref honno yw ei gartref ers blynyddoedd lawer, gan ddod â ni at yr 'Ystwyth' yn nheitl yr hunangofiant. Mae Glan hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan obeithio y bydd yn derbyn y wisg las yn Eisteddfod Ceredigion 2022 ...
Yn sicr mae'r gyfrol yn ddarllen difyr, gan gyflwyno i ni amrywiol agweddau ar fywyd un dyn arbennig a gafodd gyfleoedd anhygoel yn ystod ei yrfa ac a gydweithiodd i godi miloedd o bunnoedd i achosion da dros ddegawdau lawer.
~Tegwen Morris @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.