A novel for Welsh Learners at Higher Level by Welsh tutor Mared Lewis. Rob and his two children move into his aunt's house and begins life as a single parent. But is it easy to recreate the flame of old? A humorous novel that deals with a number of contemporary themes.
Mae’r nofel hon wedi cael ei hysgrifennu gan Mared Lewis ar gyfer dysgwyr, a gwnes i ei mwynhau yn fawr iawn. Yn y dechrau, yr oeddwn i’n ffindio’r cynnwys yn ysgafn a difyr a hefyd ro’n i’n siŵr y gallwn ragweld yn union beth fyddai’n digwydd rhwng Rob (y prif gymeriad, tad sengl efo dau o blant, newydd ysgaru), a’r merched amrywiol yn ei fywyd o, yn enwedig ‘Vogue’ ac Alys. Mae Rob wedi etifeddu tŷ ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac felly mae’n symud i fyw mewn pentref lle roedd o’n arfer aros pan oedd o’n ifanc. Mae ‘Vogue’ yn ddynes hyderus, fel model, y mae Rob yn cwrdd â hi am y tro cyntaf wrth giât yr ysgol, ac mae Alys yn hen gariad iddo.
Fy hoff gymeriadau yw plant Rob – ei fachgen bach Moc, efo’i ffordd unigryw o siarad a gweld y byd; a Ffion, merch yn ei harddegau, sy’n amyneddgar ac yn annibynnol, ambell waith yn dweud pethau anodd ond hefyd yn amlwg yn caru ei thad a’i brawd iau. Ro’n i’n ffindio Wil, ffrind Anti Harriet (a fu farw cyn dechrau’r hanes), yn gymeriad diddorol hefyd.
Yn ystod ail hanner y llyfr, fe digwyddodd rhywbeth nad oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl, ac fe wnaeth hwn dynnu fy sylw yn syth.
Mae Mared Lewis yn defnyddio iaith ysgrifenedig syml a chlir – iaith bob dydd. Os oes gair neu ymadrodd anodd, mae’n debyg y bydd cyfieithiad wedi ei ddarparu ar waelod yr un tudalen, sydd yn eich galluogi i ddarllen yn haws – does dim angen troi at y geiriadur bob pum munud! Hefyd mae pob pennod yn fyr, sydd yn golygu ei bod yn bosib ffindio’r amser i’w darllen.
Yn bendant, fe fyddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau darllen yn y Gymraeg i drio’r nofel hon. Mae’n berffaith i godi hyder dysgwyr wrth i ni drio defnyddio’r Gymraeg fwy a mwy bob dydd.
~Nicola Dunkley @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.