An exciting new novel by one of Wales's best writers. Safana reimagines the history of slavery in Georgia and looks again at one of it's most controversial figures at a time of great uncertainty.
Wrth ddarllen hon mae rhywun yn ymwybodol o lofruddiaeth George Floyd, ymdrechion yr ymgyrch Bywydau Du o Bwys a brygawthan hiliol Donald Trump. Ond nid nofel am helyntion y byd cyfoes yw hon. Yn hytrach fe’n cludir i dalaith Georgia ar ddechrau’r 1770au. Ystumiwyd cryn dipyn ar yr hanes go iawn er mwyn cyflwyno i ni bortread o’r frwydr yn erbyn caethwasiaeth yn y blynyddoedd hynny cyn sefydlu’r Taleithiau Unedig ar dir America.
Mae yma gymeriadau hanesyddol, a’r pwysicaf ohonynt yw’r Methodist George Whitefield sy’n cael ei gofio gan lawer fel Tad Ysbrydol America. Ond nid ei efengyliaeth a ddethlir yma, eithr ei gefnogaeth frwd i gaethwasiaeth. Roedd ganddo gaethweision ei hun ac fe gredai fod y fasnach yn hanfodol os oedd y wlad newydd i ffynnu.
Sefydlodd gartref i blant amddifad yn Georgia ac o’r lle hwnnw y daw Grasi, merch o dras cymysg a edmygid yn fawr iawn gan Whitefield oherwydd ei doniau rhyfeddol. Dywed wrthi y gall fod yn angel. Ond mae hi’n cefnu arno, ac yn gadael y cartref ar ôl iddi sylweddoli mai caethwasiaeth yw sylfaen ei gyfoeth.
Mae gan y ferch hon dalentau lu. Gall siarad nifer o ieithoedd (yn cynnwys y Gymraeg) ac fe fydd yn ymrithio fel gwryw neu fenyw, merch ifanc, crwydryn neu was cyflog. Mae’n cynnig ei gwasanaeth fel ysbïwr i Gyngor Safana, corff sydd â’i fryd ar warchod gwerthoedd iwtopaidd Georgia trwy wrthsefyll lledaeniad y taleithiau caeth a rhwystro’r dynladron rhag cipio dynion tywyll eu croen tros yr afon i Dde Carolina. Prif waith Grasi yw sylwi a gwrando, gan adrodd am yr hyn a glyw ac a wêl i’r Cyngor. Ond ei phennaf nod yw tanseilio bwriadau George Whitefield.
Fe’n cyflwynir i lu o gymeriadau amrywiol – rhai yn perthyn i genhedloedd brodorol America a’r gweddill o’r Alban, rhai o wledydd eraill Ewrop, neu o dras Affricanaidd – pobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol ac yn arddel arferion crefyddol amrywiol. Fe gynrychiolant y gymysgfa gyfoethog o bobl roddodd sylfaen i’r America fodern.
Ond yr uchafbwynt i’r nofel yw’r bennod olaf ond un, wrth i Grasi am y tro cyntaf yn ei bywyd ers ei phlentyndod ddod wyneb yn wyneb â George Whitefield.
Wrth drafod y berthynas rhwng crefydd a chaethwasiaeth mae’r awdur yn cyffwrdd ag ochr dywyll hanes America. Tra bod Whitefield yn cynrychioli’r cwlwm hwnnw rhwng cyfalafiaeth a chrefydd, fe saif Grasi dros yr ysbryd anorchfygol hwnnw hwnnw sy’n barod i ymladd dros ryddid a chyfiawnder.
Er ei chefndir hanesyddol mae hon yn nofel gyfoes gyffrous ac yn ddarllen cwbl angenrheidiol yn y byd sydd ohoni heddiw.
~Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.