A treasury of memoirs by talented author, Fflur Dafydd, who has always been seeking stars...
Hen air yn Shir Gâr am y lleuad yw’r ganaid, dyna air cain, un sy’n llawn canu. Ac mae cyfrol Fflur Dafydd yn llawn ceinder a chân hefyd – y lloer-ganiadau. Mae’r gyfrol delynegol, agos atoch hon yn un fydd yn sicr o swyno’r darllenydd. Mae’n gyfrol lawn hiwmor ac yn hynod feddylgar ar yr un pryd. Rhoddodd bleser anferthol i fi ei darllen hi.
Alla i weld wyneb Fflur Dafydd yn wyneb y lloer yn y gyfrol. Yn wir, fe alla i weld fy wyneb fy hun yn y gyfrol loyw, arian byw, hon, ac fe wnewch chithau weld eich hun hefyd, wy’n addo. Ac o dan olau’r lleuad ry’n ni’n cael golwg ar bob wyneb o gylch y lloer drwy’r mis crwn. Ceir ysgrif fer, flasus am y gwahanol weddau ar y lloer cyn pob pennod – o’r lleuad newydd, y lleuad gilgant, hyd y lleuad lawn ac yn ôl – sy’n disgrifio’r lleuad ar ei thaith. Mae weithiau’n defnyddio gwyddoniaeth, weithiau farddoniaeth, i esbonio a darlunio’r berthynas hudol sydd rhyngom ni, ddynion y llawr, a’r lleuad, y llinyn arian sy’n ein clymu.
Golwg ar ddarnau o fywyd Fflur a geir ymhob pennod, wedi’u cyflwyno i ni yng ngolau’r lloer. Ac o, maen nhw’n ysgrifau difyr i’w darllen. Y noson honno yr aeth hi a chriw bach o blant cynradd eraill allan adeg Calan Gaea a chael eu gadael yn ddiamddiffyn yng nghefn gwlad Ceredigion. Y cariad cyntaf. Teimladau cymhleth a lletchwith llencyndod. Y byw rhwng y ddau fyd wedi geni plentyn. Y noson pan gynhaliodd Fflur a’i brawd barti yn eu tŷ newydd pan oedd eu mam a’u tad oddi cartre, a drama’r canlyniadau erchyll. Mae’r straeon hyn i gyd yn ddarnau jig-so o fywyd yr awdur. Ac yn y bennod brydferth am sefyll ar fryn yng Ngheredigion rhywle tu fas i Dregaron gan aros i’r lleuad ymddangos, a hithau’n chwilio am ysbrydoliaeth ar drothwy cychwyn ysgrifennu sioe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion na ddigwyddodd yn 2020, mae Fflur yn rhannu rhyfeddod deuoliaeth y ddaear â ni, ein bod ni bobol yn gawraidd o fawr ac eto’n bitw o fach ddi-nod hefyd.
Mae mwy, cymaint mwy yn y gyfrol hon. Hanes Silas Evans, y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau a golau’r ffurfafen. Planed o gyfrol yw hi, un sy’n pefrio arnom. Mynnwch gopi a’i darllen – mae tu hwnt i’r byd hwn.
~Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.