A collection of stories from the Mabinogi, specially adapted for children. The tales can be confusing at times for a young audience and there are often calls for simplified versions. Mererid has a great interest in the field and her interpretations of the tales are sure to prove popular, as will be the illustrations by Brett Breckon. Reprint; first published in 2011.
Nid ar chwarae bach y mae ceisio adrodd straeon y Mabinogi i blant. Y mae’r pedair cainc yn creu byd cymhleth, clytiog ac yn portreadu’r dwys a’r doniol, y cariadus a’r creulon, ac ar ben hynny y mae rhywun yn delio ag un o eiconau ein llên. Felly roedd argraff gyntaf rhywun o’r gyfrol hon yn eithriadol bwysig, a rhaid dweud bod y cipolwg cyntaf yn plesio'n fawr. Mae’n gyfrol hardd a sylweddol, mae llygaid praff a phig grymus yr eryr yn meddiannu’r clawr, ac o fodio’r tudalennau mae’r darllenydd yn ymwybodol o bwysau’r gyfrol, ac o drwch papur y dalennau, heb sôn am urddas syml y lluniau hynod gyfoethog. O graffu ymhellach y mae hyd yn oed patrymau lliwgar canol oesol y cloriau yn datgelu difyrrwch wrth i chwi ddarganfod ambell lygoden ddigywilydd yn cuddio yn y patrwm.
Ond un peth yw argraff gyntaf. Y darllen sy’n cyfri. Mae prif ffrwd y straeon y Mabinogi wedi eu cynnwys a’r llinyn storïol yn llifo’n rhwydd drwyddynt oll. Fe geir stori hudol Pwyll yn cyfarfod â Rhiannon, mae stori Branwen a Matholwch yma, gan gynnwys cysgod dialgar Efnisien. Ceir hanes Pryderi a’r niwl dros Ddyfed, a hanes Gwydion, Lleu a Blodeuwedd. Ond yn rhyfedd iawn mae’r bennod am Bwyll yn Annwfn ychydig yn chwithig, felly hefyd hanes darniog Math ac Arianrhod, ac nid oes sôn yma am y grafanc yn cipio ebol ac yn yn gollwng Pryderi’n faban yn y stabl. O ganlyniad, nid oes sôn am Rhiannon yn gorfod cario gwesteion i’r llys ar ei chefn. O’u cymharu â’r darnau am Annwfn, byddai’r straeon hyn wedi bod fwy deniadol a difyr i blant. Ond y mae golygu a dewis a dethol straeon y Mabinogi bob amser yn dibynnu llawer ar fympwy personol. Nid yw’r detholiad yn amharu dim ar lif y straeon.
Aralleiriad cyfoes, rhwydd i’w ddeall a geir yma, nid ymgais i ail greu neu roi blas ar eirfa ganol oesol y Pedair Cainc. O ddewis y llwybr hwn ni ellid gofyn am ragorach mynegiant. Mae’r lluniau a’r dweud yn cydblethu’n hyfryd, oni bai efallai am y golygfeydd o frwydr. Mae lluniau’r brwydro a’r lladd yn llawer iawn mwy graffig na’r geiriau, fel petai awdur ac artist yn anghydweld am oedran y darllenydd.
Dyma gyfrol chwaethus, rhwydd a difyr i’w darllen a’r lluniau yn llawn urddas a dirgelwch, ac felly mae’n gyflwyniad cynnar gwerthfawr i Bedair Cainc y Mabinogi.
~John Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.