A rich volume including some of Wales's oldest and most magical folk tales and fables, expertly compiled by teacher, author and chaired bard, Tudur Dylan Jones and artist Brett Breckon. The book includes the tales of Taliesin, Merch Llyn y Fan Fach, Clustiau March, Gwiber Emlyn, Llyn Llech Owain, Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Rhys a Meinir, Beibl Beuno and Maelgwn Gwynedd.
Ystyr ‘trysorfa’ yw rhywle i storio trysor, ac yn wir i chi, mae’r llyfr hwn yn llawn trysorau! Chwedlau a straeon wedi’u hailadrodd yn gelfydd a manwl, gwledd i’w darllen i chi eich hun neu eu darllen yn uchel i’r plant iau. Ac mae’r clawr caled, trwm a lluniau urddasol Brett Breckon wir yn gwneud i chi deimlo eich bod yn dal trysor yn eich llaw!
Mae yma chwedlau sy’n hen ffefrynnau, yn ogystal â chwedlau y mae gennych ryw syniad o’r stori ond bod y manylion wedi mynd yn angof, a chwedlau nad ydw i wedi’u clywed ers fy mhlentyndod. Camp Tudur Dylan Jones yw rhoi cig ar asgwrn y storïau a dod â’r cymeriadau’n fyw, a hynny mewn ffordd mor ddifyr a gafaelgar. Braf iawn yw darllen llyfr Cymraeg i blant sy’n parchu eu gallu i ddeall yr iaith ar ei gorau, heb symleiddio’r ieithwedd a’r eirfa, ond yn hytrach yn cyfoethogi ac yn ymestyn eu hiaith.
Yr hyn sy’n wych am y chwedlau hyn, wrth gwrs, yw eu bod yn perthyn i ni, yn perthyn i Gymru, a bod eu gwreiddiau yn ddwfn mewn mannau penodol yn ein gwlad, o Ynys Cybi yn Sir Fôn, i Ben Llŷn a Llyn Tegid yn y Bala, i Dre Taliesin, Dyffryn Tywi a Chastellnewydd Emlyn, ac i Gors-las yn Sir Gaerfyrddin.
A yw’r chwedlau hyn yn dal yn berthnasol i ni heddiw? Ydyn nhw’n dal i ddiddanu ac ennyn diddordeb darllenwyr ifanc? Neu a yw hud a lledrith wedi dyddio, a wfftio ar bobl sydd â phwerau arbennig? Tybed beth yw barn Hollywood ar hynny? A barn holl gynulleidfaoedd y sinema pan ddangosir ffilmiau fel Harry Potter a Spiderman? Tybed pa chwedl yn y llyfr fyddai orau i’w throsi’n ffilm? Neu ai aros yn hudoliaeth byd y geiriau a’ch dychymyg eich hun fyddai orau?
Nid wyf yn rhy hoff o’r llun a ddewiswyd ar gyfer clawr y llyfr; mae’n codi arswyd arnaf braidd, ond barn bersonol yw hynny! Ond nid oes amheuaeth fod hon wir yn gyfrol i’w thrysori.
~Gwenllïan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.