The first collection of poems for adults by Mererid Hopwood, the first female poet to win the Chair at the National Eisteddfod. Nes Draw is shortlisted for the Book of the Year Award 2016.
O ystyried cyfraniad y Prifardd Mererid Hopwood i’n llenyddiaeth, o farddoniaeth i nofelau, mae’n hawdd anghofio mai Nes Draw yw ei chyfrol unigol gyntaf o gerddi ar gyfer oedolion. Ond mae’n amlwg nad cyfrol gyntaf arbrofol gan fardd newydd yw hon; mae’n ddatganiad hyderus gan un o leisiau blaenllaw llenyddiaeth Gymraeg fodern.
O’r olwg gyntaf mae diwyg trawiadol y gyfrol yn hoelio sylw gyda chlawr glas ac arno ysgrifen wen. Yn anarferol, mae’r cerddi wedi eu hargraffu mewn inc glas, sydd yn chwarae ar y dyfyniad ar y clawr: ‘yn y darn rhwng gwyn a du mae egin pob dychmygu’. Nid oes cyflwyniad nac unrhyw eiriau diangen o gwbl ac mae pob gair yn ystyrlon. Gwelir yr un cynildeb trwy’r gyfrol gyfan yn symlrwydd ymddangosiadol y cerddi ac yn yr iaith hamddenol, dwyllodrus o naturiol.
Golyga hyn fod yr amrywiaeth eang o fesurau yn y gyfrol, o’r caeth i’r rhydd, i gyd yn ymddangos yn hollol ddiymdrech. Ceir cerddi o bob math, o englynion a chywyddau cain am gariad, megis ‘Alaw’, i sonedau dychanol miniog fel honno am ymweliad NATO â Chaerdydd a cherddi rhydd sy’n llifo’n rhwydd oddi ar y dudalen. Ac yn goron ar y cyfan mae ei hawdl fuddugol yn 2001, sef 'Dadeni'. Ond er gwaetha’r gwahaniaethau amlwg rhwng y cerddi, clywir llais unigryw’r bardd ym mhob un, yn cellwair, yn cwestiynu ac weithiau yn condemnio.
Mae pob cerdd yn cynnwys haenau o wahanol ystyron i’w datgelu’n raddol. Gellir darllen y cerddi nifer o weithiau a gweld ystyron hollol wahanol bob tro, ac o’u hystyried yng ngyd-destun y cerddi eraill yn y casgliad, mae’r ystyron yn newid eto. Yn yr amwysedd hwn mae swyn y cerddi gan eu bod yn datgelu mwy o’u cyfrinachau gyda phob darlleniad, a’u symlrwydd yn agor yn bosibiliadau i ddychymyg y darllenydd gael chwarae â syniadau’r bardd.
~Meinir Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.