A book for Welsh learners, Advanced Level (Uwch). There has been a three-car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the driver's of these vehicles, and how did they end up here?
Mae hon yn nofel afaelgar sy’n dilyn cymeriadau diddorol a chymhleth wrth i’w gwahanol fywydau blethu’n un stori. Cwrddwn ag Alfan sy’n ddigartref ers dau fis, a Siwan, menyw gyfoethog, a chawn ddilyn trywydd eu bywydau wrth iddynt ddod i nabod ei gilydd. Ond mae ‘dod i nabod’ yn broses araf a throellog gan fod cyfrinachau gan y ddau am boen a chymhlethdod eu gorffennol. Nid seintiau mohonyn nhw o bell ffordd, ond mae rhywbeth annwyl a chlwyfedig yn y ddau ohonynt sy’n dod yn fwy amlwg ar adegau ac yn ein denu atynt.
Mae’r nofel yn dilyn Alfan a Siwan am yn ail, fesul pennod, ond mae eu hanesion yn cael eu cyflwyno yn y trydydd person yn hytrach nag yn lleisiau’r cymeriadau eu hunain. Disgrifir beth sy’n digwydd yn glir, mewn ffordd sy’n hawdd ei dilyn, ac yn aml mae’r stori’n datblygu trwy ddeialogau rhwng Alfan a Siwan, a sgyrsiau gydag eraill yn nes ymlaen. Mae’r hanes yn symud yn ei flaen yn gyflym, gan gadw diddordeb y darllenydd drwyddo draw. Rydym eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i bethau annisgwyl gael eu datgelu. Oes pobl dda a phobl ddrwg yma, ynteu ydy’r gwirionedd yn fwy amwys na hynny? Dyw’r awdur ddim yn mynd yn ddwfn i bersonoliaeth y cymeriadau, ond dysgwn ddigon i ddeall eu teimladau, eu dyheadau a’u gwendidau.
Ysgrifennwyd y llyfr gan Mared Lewis ar gyfer cyfres Amdani i ddysgwyr, a’r mae'r llyfr hwn ar gyfer Lefel Uwch, gyda geirfa addas ar waelod pob tudalen i hwyluso’r darllen. Mae hefyd restr lawn o’r eirfa hon yng nghefn y llyfr. Iaith y gogledd sydd yn y deialogau, ond fydd hyn ddim yn rhy anodd i ddysgwyr Lefel Uwch y de chwaith.
Bydd darllen y gyfrol yn brofiad i’w fwynhau gan unrhyw ddysgwr sy’n hoff o stori gref, a bydd yn gymorth i ddysgu ac ehangu geirfa, idiomau a chystrawennau naturiol a chyfoes wrth ymlacio a chyffroi ar yr un pryd.
~Philippa Gibson @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.