A book for Welsh learners, Entry Level (Mynediad), about Rhodri, who is a native Welsh speaker, and Lucy, his wife who has just started learning.
Mae hwn yn llyfr yn y gyfres Amdani sy’n addas i oedolion sy wedi cwblhau Lefel Mynediad ac yn awyddus i roi eu sgiliau newydd ar waith. Mae’n denu diddordeb trwy adrodd stori am bobl go iawn sy’n adnabyddus, sef y cyflwynwyr teledu Lucy a Rhodri Owen, a’u mab Gabriel sy’n ddeg oed.
Mae’r stori’n ddigon syml: stori am ddiwrnod pan mae’r teulu’n ymweld â Chastell Ogwr, gyda’u ci Buddy. Mae hiwmor ysgafn trwy gydol y llyfr, gan dynnu coes Rhodri am boeni am sut mae’n edrych o flaen y camerâu teledu, a thynnu sylw at Gymraeg Lucy, sy’n dysgu’r iaith. Mae ambell wall yn ei geirfa (e.e. ‘gwydrau haul’ yn lle ‘sbectol haul’) sy’n cael ei gywiro gan ei mab a’i gŵr, ac mae hi’n tueddu i ddefnyddio geiriau crand y dysgwr yn hytrach na geiriau’r stryd weithiau – sydd hefyd yn cael eu troi’n eiriau cyffredin gan y lleill.
Mae’r lluniau hefyd yn ychwanegu hiwmor ac ysgafnder i’r llyfr. Maen nhw’n gyfuniad o ffotograffau o wynebau’r bobl go iawn a chyrff cartwnaidd, sy’n egluro’r stori, ac fel arfer mae un llun ar gyfer pob tudalen o destun.
Mae’r awdur Mari George wedi ysgrifennu’r stori mewn iaith seml ac uniongyrchol. Mae’r rhan fwyaf o’r brawddegau’n defnyddio’r amser presennol, gydag ambell ‘roedd’ a ‘bydd’, ond does dim berfau amser gorffennol (e.e. ‘aeth’, ‘gwelodd’). Mae’n defnyddio iaith a geirfa bob dydd a fydd yn ddefnyddiol i bawb. Mae geirfa ar waelod pob tudalen, a hefyd mae’r geiriau sy’n ymddangos yno yn cael eu hamlygu gan brint trwm yn y testun. Bydd hyn yn help mawr i ddysgwyr ar y lefel hon, gan eu galluogi i ddarllen yn weddol ddidrafferth.
Er y bydd y llyfr yn dal yn ddigon heriol, gobeithio bydd y profiad o lwyddo i’w ddarllen ac o gael blas arno yn hwb i barhau a symud ymlaen trwy'r llyfrau eraill yn y gyfres. Dylai hyn fod yn sail gadarn i ddod i arfer darllen, a mwynhau darllen – dwy elfen allweddol yn y broses o ddysgu’r iaith.
~Philippa Gibson @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.