Greta is a little girl who finds a little lame deer in the woods. She helps the little deer by wrapping her scarf around its leg. Imagine the shock Greta gets months later when Gwyn, the little deer, knocks on her window on Christmas Eve and takes her on an adventure with Siôn Corn.
Mae gen i wendid mawr pan mae hi’n dod at lyfrau Nadoligaidd, a dwi’n cael fy hudo’n syth! Felly roedd gweld y gyfrol wreiddiol Gymraeg hon yn rhoi’r sbeis ychwanegol yn fy mins-peis!
Rydw i’n ffan enfawr o waith yr artist Valériane Leblond. Mae ganddi’r ddawn i greu byd y gallwch ymgolli ynddo gan adael y mymryn pwysig yna i’r dychymyg. Mae hynny’n sicr yn wir am y gyfrol hyfryd hon. Mae’r darlunio’n annwyl ac mae Valériane – er mor boblogaidd ydi ei gwaith hi ymysg cyfrolau plant Cymraeg ar hyn o bryd – yn llwyddo i greu rhywbeth sy’n unigryw i’r stori fendigedig hon gan Tudur Dylan.
Stori ar fudr ac odl yn adrodd hanes Greta sy’n gwneud cymwynas â charw bach, a hwnnw’n ei dro’n diolch iddi yn ei ffordd hudol ei hun, sydd yn y gyfrol. O agor y clawr a mynd tuag at y dudalen gyntaf, rhaid cyfaddef mai annisgwyl iawn oedd dechrau’r stori yn yr haf wedi i’r clawr fy amsugno i aeaf hudolus y Nadolig, a chefais ryw chwarter siom. Ond pharodd hynny ddim yn hir wrth i chwilfrydedd bach ddechrau tyfu. Tybed beth fydd y cysylltiad rhwng y darlun hyfryd o’r teulu’n cael picnic yn yr haf a’r darlun sydd ar y clawr?
Mae Tudur Dylan wedi adrodd y stori’n syml, ac mae'r eirfa'n hawdd i’w deall o un cwr o Gymru i’r llall. Ro’n i’n darllen y stori i fy merch blwydd a hanner, ac yn naturiol wrth wneud hynny mae rhywun yn mynd ‘off-script’ i drio gwneud yn siŵr bod y fechan wedi deall ac yn gweld y cysylltiad rhwng y darlun a’r geiriau. Ond doedd dim angen gwneud llawer o hynny gyda’r gyfrol hon.
Stori i’w darllen gyda phlentyn bach ydi hi, yn bennaf gan nad yw’r testun wastad yn glir ar y dudalen, ac mae rhai brawddegau wedi'u gosod ar y darluniau eu hunain, sy'n cymhlethu'r broses o ddarllen, o bosib. Wedi dweud hyn, wnaeth hyn amharu dim ar fy mwynhad i na Martha fy merch.
Bydd hon yn cael ei darllen droeon dros y Nadolig a thrwy’r flwyddyn yn tŷ, ni beryg iawn ... yn enwedig gan fod ‘Martha’ yn cael mensh! Tybed ydi enw’ch plentyn chi yn rhestr Siôn Corn ar dudalen 23?!
Anni Llŷn
~Cyngor Llyfrau Cymru
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.