The long-awaited sequel to the popular novel Gwrach y Gwyllt, first published in 2003. Through magic and mystery, with strong language and imagery, we follow young Meg as she finds out what really happened to her mother, the witch in the first title.
Rydym wedi bod yn aros am ddilyniant i’r nofel Gwrach y Gwyllt ers i’w diweddglo ein gadael ar bigau’r drain. Ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, mae Merch y Gwyllt, o’r diwedd, wedi cyrraedd i’n cyfareddu, a merch y wrach hudolous, ddidrugaredd Siwsi Owen sy’n hawlio’i lle fel y wrach ddoeth a phwerus yn y nofel hon.
Wedi prolog awgrymog, mae stori Meg Siôn yn dechrau gyda’i modrybedd, neu Dodo Ann, Lowri a Dorti, yng ngorllewin Iwerddon. Gorfodwyd y tair femme fatale i adael eu cartref yn Nolgellau, gan addo peidio dychwelyd yn ôl i Gymru – byth.
Mae’r tair yn penderfynu magu eu nith yng Nghastell Dumhach, ac er bod eu hanes a’u cartref yn llawn dirgelwch (a’u bod weithiau’n creu sôn amdanynt eu hunain ar ôl ambell noson nwydus gyda rhai o’r dynion lleol!), maent yn setlo i ganol y gymuned yn dda, a Meg yn cael plentyndod cariadus, cymharol gyffredin gyda’i modrybedd ecsentrig.
Ond ‘cyffredin’ yw’r gair olaf y byddai rhywun yn ei ddefnyddio wrth ddisgrifio gwrach, yn enwedig gwrach sydd â chymaint o bŵer â Meg.
Awn ar daith gyda Meg wrth iddi aeddfedu a dysgu am hanes ei theulu a’i dawn arbennig fel gwrach. Y cwestiwn i’r darllenydd yw, beth wnaiff hi wrth iddi ddeall beth yn union ddigwyddodd i’w mam, a pha ran oedd gan ei thad yn ei marwolaeth.
Er i’r nofel gael ei lleoli yng ngorllewin Iwerddon, ac er i ni ddilyn Meg ar ei theithiau yng Ngwlad Thai, Ffrainc a Llundain, rydym yn ysu iddi ddychwelyd yn ôl i Gymru, ac i Ddolgellau’n benodol. Mae gwreiddiau yn bethau pwerus. Y cwestiwn mawr yw a fydd Meg yn medru rheoli ei thymer yn well na’i mam. Ydi hi’n ddoethach? Ydi hi’n medru maddau? Ynteu ydi beth wnaeth Rhys Dolddu y tu hwnt i faddeuant?
Gyda modrwyau fflamgoch ei gwallt a’i llygaid emrallt, mae’n sicr wedi etifeddu nodweddion ei mam, ond beth am y ddawn hudol mae wedi ei hetifeddu gan ei thad?
Cysgod annifyr yw Rhys Dolddu yn y ddwy nofel. Efallai nad ydi pawb yn ddrwg i gyd ac mai amgylchiadau a digwyddiadau sydd yn aml yn creu gwenwyn a chwerwder ynddynt, ond mae Rhys Dolddu yn croesi’r llinell sawl gwaith yn ormod. Tybed beth fydd ei dynged?
Ar ôl cael ein cyflwyno i swyn byd y gwrachod hyn yn y nofel gyntaf rydym eisoes yn teimlo ein bod yn adnabod Meg, er nad ydym wedi ei chyfarfod eto. Ond mae mwy yn y fantol yn Merch y Gwyllt. Rydym yn gwybod bod busnes anorffenedig i’w gwblhau. Daw hyn i’r amlwg yn yr arddull; mae byd natur yn rhan annatod o’r cymeriadau, ac yn ymylu ar fod yn gymeriad ynddo’i hun yn y nofel.
Dyma stori sydd â merched annibynnol, ffraeth a phwerus yn byw bywyd fel y mynnant. Yr eironi yw bod Rhys Dolddu yn melltithio pob gwrach, ond eto mae’n iawn iddo fo ymarfer a chreu swynion, ac mae’n amlwg yn ofni merched pwerus.
Mae llais ffeministaidd yr awdur i’w glywed yn glir a hyderus, ac yn galondid i bob merch wrth ddarllen y nofel. Er bod llai o ryw yn Merch y Gwyllt, mae yma hen ddigon o nwyd hefyd, a’r pwyslais ar y ffaith nad dynion yn unig sy’n mwynhau rhyw. Wedi dweud hynny, mae’r nofel hon i bawb, nid merched yn unig. Mae’r stori’n anturus a gafaelgar, a gobeithiaf fod saga Gwrach y Gwyllt am barhau.
O, ac edrychwch chi ddim ar gigfran neu sgwarnog yn yr un ffordd byth eto …
~Mared Llywelyn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.