An anthology of short stories from 14 talented writers, each story with a twist in the tail, and each echoing some aspect of the previous story and sometimes, other stories.
Dyma gyfrol fentrus o straeon byrion gan 14 awdur dawnus
~Publisher: Gomer@Lolfa
Fel y mae'r teitl yn lled-awgrymu, ceir rhyw fath o berthynas rhwng pob stori yn y gyfrol hon o straeon byrion. A pherthynas ddigon cymhleth yw hi ar yr olwg gyntaf. Trwy ddod â gwaith 14 o wahanol awduron at ei gilydd, ceir llinynnau bychain yn ymestyn yn ddeheuig o un i’r llall, a gall manylyn bach o un stori fod yn ganolbwynt i waith awdur arall.
Nofel arbrofol y Gwyddel Dermot Bolger, sef Finbar’s Hotel, lle roedd gan bob awdur ei bennod ei hun, oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gyfrol, fel yr eglura Jon Gower yn y rhagair. Ond tra bo'r nofel honno wedi'i lleoli'n gyfan gwbl mewn gwesty yn Nulyn, mae straeon Clymau wedi'u lleoli ar draws y byd, o Cadiz a Budapest i Gaerdydd ac Aberystwyth. Ac er nad oes llinyn storïol amlwg rhwng y straeon, mae’r cymeriadau a'r digwyddiadau sy’n llithro rhwng y darnau'n cyfleu mor debyg yw profiadau sylfaenol pobl.
Mae’r rhan fwyaf o'r awduron yn ffigurau llenyddol adnabyddus, ond er bod rhai, megis Fflur Dafydd, yn enwau cyfarwydd ym myd y stori fer mae ambell un, megis Rhys Iorwerth, yn rhoi cynnig ar y genre am y tro cyntaf. Ac mae’r amrywiaeth hon yn ganolog i’r gyfrol gan fod naws a blas gwahanol gan bob un stori. Ceir arddulliau amrywiol, iawn, o realaeth digwyddiadau cyffredin, beunyddiol hyd at swrealaeth annisgwyl. Wrth ddarllen y gyfrol mae’n amhosib rhag-weld i ba gyfeiriad yr aiff pob stori, ac ym mha ffyrdd y mae’r straeon unigol yn cysylltu â’r gyfrol gyfan.
Yn y pen draw, pos yw’r gyfrol i’r darllenydd ei ddatrys yn ei ffordd ei hun. Mae’n chwarae â sefyllfaoedd a theimladau cyffredin ac yn rhoi tro ynddynt, rhai yn llon a rhai yn lleddf. Ond mae'r straeon i gyd yn adlewyrchu cymhlethdodau a chlymau bywyd.
~Meinir Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.