A family leaves Wales for a better life in America. The family quilt brings great comfort when they long for home. This is a tender story about emigration and longing, with superb illustrations. The first volume in which Valériane has written the text and created the images.
Dyma drysor. Wir i chi, mae ’na rywbeth am y gyfrol hon yr ydw i, fel oedolyn, eisiau ei drysori. Mae hyd yn oed ansawdd y tudalennau’n teimlo’n werthfawr. Rydan ni wedi arfer gweld gwaith arbennig yr artist Valériane Leblond mewn gweithiau celf o bob math, gan gynnwys lluniau mewn llyfrau, ond yma mae hi’n troi ei llaw at yr ysgrifennu hefyd.
Stori teulu sy’n ymfudo gan fynd â'u cwilt gyda nhw a geir yma. Mae hi’n darllen fel cerdd i mi, ac mae’r darluniau yn hynod annwyl ac yn creu awyrgylch unigryw. Darllenais drwyddi ac yna mynd o glawr i glawr eto, gan edrych ar y lluniau yn unig. Mae’r stori’n cael ei hadrodd ddwywaith yn hyn o beth.
Wnes i ddim ei darllen i fy merch – mae hi’n rhy ifanc, dwi’n credu (nid yw eto'n ddwy oed). Ond bydd hon yn gyfrol y byddwn ni’n troi ati gyda’n gilydd ac yn sicr yn gyfrol y bydd Martha’n gallu ei mwynhau wrth ei darllen ar ei phen ei hun pan fydd hi'n hŷn.
Mi faswn i’n awgrymu ei bod hi'n addas i blentyn ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Mae hi’n stori dawel ac annwyl sy’n rhoi rhyw deimlad personol iawn iddi. Mae'n llyfr perffaith i blentyn tawel sy’n hoff o gael pum munud o lonydd i ymgolli mewn llyfr.
Mae Valériane yn profi ei bod hi’n feistres ar ddarlunio gyda phaent a geiriau yn y gyfrol fendigedig yma.
~Anni Llŷn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.