Another charming, volume by Caryl Lewis and Valériane Leblond, following their success with Sgleinio'r Lleuad which was shortlisted for the 2015 Tir na n-Og Prize. Elsi lives with her grandmother, a beekeeper. By following the bees, and taking note of how the garden changes all through the year, Elsi comes to love each season.
O am lyfr hyfryd! O’r funud rydych yn gafael yn y llyfr clawr caled a throi’r papur trwchus, fe wyddoch eich bod yn byseddu clasur Cymraeg. Ac yn nwylo meistrolgar yr awdur Caryl Lewis a’r arlunydd dawnus Valériane Leblond cawn wledd o ddarllen mewn stori pum munud.
Mae geiriau a stori Caryl Lewis mor afaelgar, a’r pum synnwyr yn dod yn fyw wrth adrodd stori Elsi a’i blwyddyn gyntaf gyda’i mam-gu. Mae Elsi wedi cael ysgytwad a hithau, fel y dywed ei mam-gu, ‘yn cryfhau ar gyfer y gwanwyn’. Cawn ddilyn ei hanes wrth i’r gwenyn ar waelod yr ardd ei helpu i adfer ac i werthfawrogi’r byd natur yn yr ardd.
Yr ysgogiad gan yr awdur i lunio’r stori, o’r hyn a ddeallaf, yw pryder nad yw plant yr oes sydd ohoni yn ymwneud digon â byd natur, a bod eu gwybodaeth yn brin iawn am y byd o’n cwmpas. Mae’r stori hon yn sicr yn gam pwysig tuag at lenwi’r bwlch hwnnw, gan gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd dawel, heb i’r darllenydd sylwi bron, a bydd hyn yn sicr o annog diddordeb o’r newydd ym myd natur.
Mae’r lluniau manwl yn ychwanegu at awyrgylch ledrithiol y stori ei hun, ond nid ydynt yn ail-greu’r hyn sydd yn y stori; yn wir maent yn stori ynddynt eu hunain, bron. Mae’n drueni efallai fod y teip sy’n cyd-fynd â’r lluniau hyfryd o’r planhigion yn un sydd, o bosibl, yn anodd i ddarllenwyr ifanc ei ddarllen yn annibynnol, gan y gellid wedi defnyddio’r dudalen fel rhyw fath o gyfeirlyfr blodau ganddynt.
Mae pob plentyn ac oedolyn yn siŵr o ddotio ar y llyfr bendigedig hwn.
~Angharad Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.