This appealing combination of a charming story by Manon Steffan Ros and colourful artwork by Jac Jones brings the text alive to young readers. The authors co-published Dafydd a Dad in 2013. The story urges us not to criticise those who look and behave differently to us, and that we should respect everyone. Tir na n-Og Award Winner 2020.
Un peth fyddai’n cofio’n glir am yr ysgol gynradd oedd amser gwasanaeth pan fyddai’r athrawes yn darllen clasur o stori ‘prosiect 3D’, Y Bobol Fach Wyrdd. Dwi’n cofio teimlo mor flin fod y bobl binc yn trin y bobl wyrdd yn frwnt am eu bod nhw’n edrych yn wahanol. Rŵan, mae Manon Steffan Ros yn cyflwyno clasur newydd inni ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy’n trafod themâu tebyg.
Mae’r stori’n cael ei hadrodd o safbwynt y bachgen bach ‘gwyrdd’ (sy’n digwydd bod yn alien!). Mae teulu o bobl ‘piws’ wedi symud drws nesaf ac maen nhw’n wahanol iawn. Yn ogystal â lliw eu crwyn, mae eu tŷ yn wahanol, maen nhw’n bwyta pethau gwahanol ac maen nhw’n siarad iaith wahanol. Er yr holl wahaniaethau, mae’r ddau fachgen yn hoff o bêl-droed ac yn datblygu cyfeillgarwch agos drwy rannu’r un diddordebau.
Dathla’r stori'r gwahaniaethau rhwng y teulu piws a’r teulu gwyrdd, gan ein hatgoffa eu bod nhw’n debyg iawn hefyd. Mae’r stori’n ein dysgu i fod yn fwy goddefgar ac i barchu eraill. Ychydig iawn o waith darllen sydd ar y stori ac felly mae'n addas iawn ar gyfer plant ifanc. Mae’r ychydig eiriau sydd yno wedi cael eu dewis yn ofalus ac yn adrodd neges hynod o bwysig – dim ots beth yw lliw ein crwyn, rydym i gyd yn bobl – neu yn aliens!
Dwi wrth fy modd gyda lluniau Jac Jones a dwi’n meddwl y byddwch chithau hefyd. Mae’r lluniau dyfrlliw yn orlawn o fanylion ac o liwiau o bob math ac mae digonedd yn digwydd ym mhob un.
Un o gryfderau’r llyfr yw ei fod yn sail ardderchog ar gyfer trafodaeth ystyrlon. Credaf y byddai rhiant a phlentyn yn mwynhau sgwrsio a thrafod y gwahanol ddigwyddiadau a sefyllfaoedd sy’n cael eu cyflwyno. Dyma stori annwyl sy’n amserol iawn mewn byd lle mae llawer o wrthdaro a chasineb rhwng gwahanol bobloedd a hiliau. Byddai’n gwneud anrheg berffaith neu stori sydyn a defnyddiol i athrawon sy’n arwain y gwasanaeth boreol.
~Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.