Angharad Griffiths has compiled a selection of agonising stories by individuals who have, in the past, had issues with alcohol. 13 contributors discuss frankly their relationship with alcohol, sharing their experiences of picking themselves up from a deep darkness and resolving not to touch another drop.
Mae Angharad Griffiths wedi casglu hanesion ingol gan unigolion sydd wedi cael problemau gydag alcohol yn y gorffennol. Mae 13 o gyfranwyr yn trafod yn onest eu perthynas a diod, ac yn rhannu eu profiadau o godi o'r gwaelod dwfn a phenderfynu na fyddan nhw byth eto yn cael un yn ormod.
~Publisher: Y Lolfa
Cyfrol sydd yn ymdrin â phrofiadau pobl a’u perthynas ag alcohol yw Un yn Ormod. Ceir cyfraniadau gan 13 unigolyn, gydag un bennod wedi’i hysgrifennu gan olygydd y gyfrol, sef Angharad Griffiths. Yn debyg i gyfrolau blaenorol y Lolfa megis Galar a Fi, Codi Llais, Gyrru Trwy Storom a Byw yn Fy Nghroen, mae dyfyniad ysbrydoledig a pherthnasol rhwng pob pennod ynglŷn â dibyniaeth gan unigolion adnabyddus megis Matthew Perry, Brené Brown a’r diweddar Robin Williams.
'Alla i ddim cyfleu pa mor falch ydw i o gael llyfr yn trafod alcohol yn fy mamiaith' – dyma sut mae Ffion Dafis yn agor y gyfrol yn ei rhagair, ac mae geiriau Ffion yn cyfleu fy nheimladau i i’r dim. Yn bersonol, fel un sydd o blaid torri tabŵs o fewn ein cymdeithas, mae o’n chwa o awyr iach i mi gael darllen profiadau gonest, diflewyn-ar-dafod yn Gymraeg am bwnc hynod sensitif sydd, yn anffodus, yn parhau i fod ynghlwm â stigma. Rhy Ffion fewnwelediad agored i’r darllenwyr am yr hyn sydd yn eu disgwyl, drwy esbonio bod cynnwys y gyfrol hon yn ddoniol, yn ddwys ac yn dorcalonnus ar adegau, 'ond yn fwy na dim, yn llawn gobaith'.
Ysgrifau oedd y dull a ddewiswyd gan y mwyafrif o gyfranwyr er mwyn rhannu eu profiadau unigryw, gydag ambell eithriad. Er enghraifft, fe ddewisodd yr awdur a'r dramodydd Rhiannon Boyle ysgrifennu ‘Sobor: Act 1–5’ – darn dirdynnol mewn pum act sydd yn crynhoi ei thaith deimladwy a heriol o alcoholiaeth tuag at sobrwydd. Cerdd fywiog sydd gan Owain Williams yn ‘Sgriblo’n Sobor’ sydd yn egluro’r dinistr a achosir gan alcohol i fywyd unigolyn – yn ariannol ac yn gorfforol, dinistr sy’n cael ei guddio gan amlaf dan ffasâd hwyl y ‘dathlu’. Mae’r bennod olaf, ‘Torri Tir Newydd: Dewis Peidio Yfed yn 27 Oed’, wedi’i hysgrifennu ar ffurf dyddiadur gan Elin Meredydd. Dechreua ym Mehefin 2020 ac yna cawn ein tywys am yn ôl hyd at Ragfyr 2019. Gyda’r defnydd o regfeydd ac iaith lafar ogleddol, mae o bron yn teimlo fel pe bai Elin yn siarad yn uniongyrchol â mi, ac mae’r gonestrwydd amrwd hwn yn nodweddu'r gyfrol gyfan.
Dydi hon yn sicr ddim yn gyfrol hawdd i unrhyw un ei darllen, ond mae’n bwysig imi bwysleisio bod pob cyfraniad wedi fy nghyffwrdd. Mae'n gyfrol deimladwy a chignoeth, ac yn bwysicach na hynny, mae hi’n gyfrol sydd yn agor y sgwrs ymhellach ynghylch ein perthynas ni yng Nghymru ag alcohol. Diolch i Angharad am gasglu’r deunydd a chyfrannu ei stori ei hun, i Swci Delic am ddylunio clawr mor drawiadol o hardd, ac i’r holl gyfranwyr am eu parodrwydd i agor trafodaeth ar bwnc anodd ond yn un sy’n fwy cyffredin nag y tybir. Gobeithio wir y bydd mwy o gyfrolau fel hyn yn gweld golau dydd, gan eu bod yn cynnig cymaint o gymorth a gobaith i nifer ohonom.
~Arddun Rhiannon @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.