The novel takes place over a period of 24 hours in a Welsh city in the near future, against a backdrop of racist rhetoric and attitudes, the presence of right-wing politics and the country's fragile economic situation. Lovers Math and Sadia attend a concert but are separated following an explosion at the event.
Syniad da yw’r gyfres Stori Sydyn sy’n gwneud yn union beth mae’n ddweud ar y tun (fel yr hysbyseb Ronseal) – rhoi stori dda, sydyn i chi am bris rhesymol iawn. Mae Pobl Fel Ni yn llyfr amlbwrpas – hynny yw, mae’n addas i oedolion, pobl ifanc, dysgwyr, darllenwyr newydd neu unrhyw un sy’n brin o amser i ddarllen clamp o nofel fawr.
Cychwynna’r nofel wrth i Nathan (bachgen gwyn) gyfarfod Sadia (merch Fwslemaidd) ar fws ac mae’r ddau'n cychwyn cyfeillgarwch sy’n prysur droi'n berthynas. Trafod llyfr oedd y ddau pan gawson nhw eu sgwrs gyntaf – felly heblaw am basio’r amser, mae llyfrau’n ddefnyddiol iawn am sawl rheswm!
Er bod y ddau yn hapus iawn yng nghwmni ei gilydd, mae ’na broblem hiliaeth yng nghymuned Trelluest (yr enw Cymraeg ar Grangetown) ac mae eu perthynas yn codi aeliau ambell un. Yn sicr nid yw tad Nathan, sy’n hiliwr rhonc, yn cytuno gyda dewisiadau ei fab. Oherwydd y tlodi a’r diweithdra, mae tensiynau mawr rhwng y ddwy gymuned a daw’r gymuned Fwslemaidd yn darged i gamdriniaeth hiliol a'u beio am ‘ddwyn ein jobs’. Roedd perthynas Nathan a’i dad treisgar yn ddiddorol iawn – er eu bod yn deulu, maen nhw’n gwbl wahanol, ac mae gan y mab gywilydd mawr o gredoau rhagfarnllyd ei dad.
Yn dilyn ffrwydrad anferth mewn cyngerdd, caiff ein prif gymeriadau eu dal yng nghanol erchylltra hunllefus y noson. Roedd yr ofn, y panig a’r dryswch a ddisgrifiwyd yn fy atgoffa’n syth o’r ymosodiad terfysgol ym Manceinion. Ceir yma ddweud pwerus gan yr awdur wrth iddo sôn am y ffordd y mae trychinebau’n cael eu hadrodd bron fel adloniant gan y cyfryngau, ac wedyn yn cael eu hanghofio mor sydyn wrth iddyn nhw chwilio am y ‘stori fawr nesaf’:
“Mae pob trasiedi’n troi’n hashnod. Ond yna daw’r hashnodau i ben a fydd neb yn cofio a fydd dim byd yn newid.”
Er nad oes tystiolaeth i ddangos pwy sy’n gyfrifol am yr ymosodiad, credai rhai o’r eithafwyr mai’r Mwslemiaid sydd ar fai, a daw torf at ei gilydd yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl a rhoi’r mosg ar dân. Mae’r digwyddiadau sy’n dilyn yn frawychus a dweud y lleiaf.
Er ei bod yn nofel fer, does gan Pobl Fel Ni ddim ofn taclo’r pynciau mawr – rydw i'n bendant yn ei hargymell. Croesawaf lyfr fel hwn sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion hollbwysig fel hiliaeth, rhagfarn a chasineb, a hynny mewn modd sy’n dangos mor berthnasol ydyn nhw i ni yng Nghymru hefyd.
~Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.