Huw Brassington is a presenter and speaker, author, adventurer and athlete of distinction who has completed some of the world's most difficult races, including the Coast to Coast race in New Zealand. He hails from Caernarfonshire but now lives with his wife Gwenllian in Cumbria, and lectures in Engineering. He currently presents the S4C series 'I'r Eithaf'.
Mae Huw Jack Brassington, awdur y gyfrol hon, yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonon ni – ie, fo ydy’r boi gwallgo sy’n gadael i gamera ei ddilyn ar heriau gwallgo! Os ydych chi wedi mwynhau dilyn rhai o anturiaethau Huw ar y teledu, byddwch yn siŵr o fwynhau’r anturiaethau rhwng cloriau’r llyfr hwn.
Cyn plymio i ganol y campau, cawn brolog bychan sy’n cyflwyno’n blwmp ac yn blaen y rheswm y mae’r awdur yn gwneud y pethau hyn – mae’r cloc yn tician, a does dim rheswm dros adael i unrhyw gynnig fynd heibio. O’r dechrau un, felly, down i adnabod cymeriad Huw, a’r hyn sy’n ei yrru i wynebu heriau sydd y tu hwnt i ddychymyg y mwyafrif ohonom. Dysgwn o’r bennod gyntaf fod y elfen benderfynol hon yn nodwedd gref ar ei gymeriad ers ei arddegau, os nad ynghynt, pan fu’n rhoi cant y cant mewn gêm rygbi, hyd yn oed os oedd ei dîm yn cael chwalfa heb obaith ennill, hyd at y chwiban olaf.
Mae’r dyfalbarhad a’r pendantrwydd yma’n llinyn sy’n rhedeg drwy holl anturiaethau’r gyfrol. Cawn gyd-deithio ar siwrnai o orchestion ym mhedwar ban byd – o Iwerddon i Seland Newydd, ac o Ffrainc i Fietnam. Yr un mor amrywiol â’r hinsawdd ym mhob gwlad yw’r campau a’r heriau y mae’r awdur yn ymgiprys â hwy – o rygbi i ddringo mynydd, o driathlon i redeg mynydd, o gyfeiriannu i feicio mynydd, heb sôn am y sgarmes ddifyr wrth wynebu caiacio! Oes – mae digon o amrywiaeth o bennod i bennod, ac wrth i’r heriau fynd yn fwy dychrynllyd o flwyddyn i flwyddyn, mae’r profiad ‘anoddaf erioed’ yn ymddangos dro ar ôl tro!
Wrth iddo adrodd am y campau corfforol hyn, cawn hefyd gipolwg ar yr heriau meddyliol sy’n wynebu anturiaethwyr fel Huw, a’r modd y mae’n eu goresgyn, hyd yn oed wrth wynebu’r ‘gêm o hide and seek fwyaf dychrynllyd’ erioed, neu wrth ffilmio rhaglen deledu gan ddefnyddio gêm wyddbwyll feddyliol fel tacteg i gael stori dda – a hynny yn ystod wythnosau anoddaf ei fywyd! Mae’r adrodd drwyddi draw yn onest iawn, ac er iddo gwestiynu ei allu i ysgrifennu llyfr, mae yma nifer o ddisgrifiadau bach da, megis y disgrifiad o Mont Blanc fel ‘morfil o fynydd, yn drwsgl ond eto’n urddasol, wedi ei lapio mewn blanced ddisglair o hanes mynydda caled’. Mae digon o gyfleoedd i chwerthin wrth ddarllen hefyd, gyda’r disgrifiadau o bobl a digwyddiadau doniol yn ymddangos drwyddi draw.
Dyma stori sydyn sy’n llifo’n rhwydd. Yn wahanol iawn i’r anturiaethau y mae’r awdur wedi’u cwblhau, does dim angen blynyddoedd o ymarfer na dyfalbarhad, na chymorth i ddal ati, er mwyn concro’r gyfrol hon – fe lithrwch drwy’r cyfan heb symud modfedd!
~Awen Schiavone @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.