This book relates the experiences of 12 young people who have fought against long-term conditions. They discuss in detail physical and mental illnesses such as cancer, epilepsy, Crohn's disease, spina bifida, blindness, OCD, depression and anxiety.
Cyfranwyr:
Erin Hughes - Myasthenia gravis; Iestyn Tyne - Clefyd Siwgr Teip 1; Caryl Bryn - Iselder a gorbryder; Lois Mererid - Ulcerative Colitis; Arddun Rhiannon - Iselder a gorbryder; Rhiannon Lloyd Williams - ME; Liwsi Mo - Epilepsi; George Bowen Phillips - Spina Bifida; Mared Jarman - colli golwg, clefyd Stargardst; Elis Derby - OCD, Beatrice Edwards - canser y gwaed yn 17 oed; Sioned Rowlands - Acne.
Profiadau dirdynnol 12 o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae'r cyfranwyr yn trafod yn fanwl afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn's, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma gyfrol lle y mae dwsin o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed yn rhannu eu profiadau o fyw â chyflyrau iechyd hir dymor, a hynny’n gwbl agored ac yn onest.
Rhoddir sylw i amrywiaeth eang o gyflyrau: iselder, gorbryder, cancr y gwaed, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), spina bifida, clefyd y siwgr math 1, epilepsi, ulcerative colitis, clefyd stargardt, CFS/ME, acne a Myasthenia Gravis. Mae enwau rhai o’r cyflyrau yn gyffredin, ond mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu trafod yn gyhoeddus yn Gymraeg.
Egyr y gyfrol â rhagair gan y golygydd, Sioned Erin Hughes, sy’n egluro mai nod y gyfrol yw rhoi “llais i’r sawl sydd wedi ofni eu geiriau eu hunain cyhyd, a hynny ar gownt y stigma”, gan ddangos hefyd nad yw bywyd pobl ifanc yn fêl i gyd.
Ceir rhestr hynod ddefnyddiol o beth y dylid, ac na ddylid, ei ddweud wrth rywun sy’n byw â salwch neu gyflwr hirdymor. Er enghraifft, gall rhywbeth mor syml â gofyn ‘Sut wyt ti’n teimlo heddiw?’ fod o gymorth mawr. Rwy’n siŵr y bydd rhestr o’r fath yn annog sgyrsiau, gan fod pobl yn fwy hyderus eu bod yn gwybod beth i’w ddweud.
Ceir strwythur a fformat gwahanol i bob pennod, gyda rhai cyfranwyr yn rhannu sut mae’r salwch wedi effeithio arnynt wrth iddynt dyfu i fyny, ac eraill yn penderfynu canolbwyntio ar gyfnod penodol. Er enghraifft, cofnod o ddiwrnod gydag OCD a gawn gan Elis Derby, sy’n dangos bod symptomau ac effaith cyflyrau o’r fath yn amrywio yn ddyddiol. Pwysleisir hyn hefyd gan Mared Jarman, a ddywed nad yw ei golwg hi’n gyson: “mae’n newid o ddydd i ddydd, o awr i awr, o ystafell i ystafell, ac o berson i berson.”
Mae’r profiadau a rennir yn y gyfrol hefyd yn llwyddo i chwalu mythau am rai o’r cyflyrau. Wrth feddwl am epilepsi, mae’n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl yn syth am ffitiau. Ond mae darn Liwsi Mô yn ein haddysgu am fath penodol o epilepsi, sef Atypical Absence Epilepsy. Yn yr un modd, mae Elis Derby yn chwalu’r stereoteip niweidiol mai gair i ddisgrifio person taclus neu drefnus yw OCD drwy ddisgrifio’r ‘meddyliau drwg’ a gâi: “darluniau o weld aelodau o fy nheulu yn cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain car.”
Yr hyn sy’n gwneud y gyfrol yn arbennig yw’r modd y plethir cyflyrau corfforol a meddyliol. Wedi’r cyfan, mae’n anodd meddwl am unrhyw salwch neu gyflwr na fyddai’n cael effaith negyddol ar sut mae rhywun yn teimlo. Sonia Lois Mererid Williams am yr unigrwydd a deimla “fod ’na neb arall yn dallt ‘go iawn’”. Cofnoda Sioned Erin Hughes hefyd fod sgileffaith cyffuriau i drin Myasthenia Gravis yn medru cynnwys mathau o iselder, gorbryder, hysteria a pharanoia.
Drwy rannu eu profiadau personol mor agored ac onest, cawn ein haddysgu am realiti byw â chyflyrau hirdymor o ddydd i ddydd. Cawn ddarlun gonest a real o’r cyflyrau, a hynny heb fod yn orddramatig. Er bod y cyfraniadau yn bwerus ac yn ddirdynnol ar adegau, mae gobaith yn amlwg ym mhob un ohonynt.
Mae’r gyfrol yn rhoi llais i’r cyfranwyr i rannu eu profiadau, a thrwy hynny addysgu’r darllenwyr am gyflyrau y mae nifer ohonynt yn ddieithr. Mi wnes i yn sicr ddysgu llawer am gyflyrau a dysgu rhywbeth gan bob un o’r cyfranwyr. Rwy’n siŵr bod darllenwyr sydd â phrofiad o’r cyflyrau hefyd yn cael budd a chysur o fedru uniaethu â’r profiadau a rennir.
Er mai cyfraniadau gan bobl ifanc a geir yma, mi fyddwn i’n annog pawb i’w ddarllen, gan fod y cyflyrau iechyd a drafodir yn medru effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed.
~Manon Elin James @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.