A book for Welsh learners, Intermediate Level. An adaptation of Nigel Owen's autobiography Hanner Amser, arranged in short chapters.
Llyfr o gyfres Amdani i ddysgwyr Lefel Canolradd. Addasiad o hunangofiant poblogaidd Nigel Owens, Hanner Amser. Bydd y testun wedi ei rannu'n benodau byr iawn, ac yn son am ei blentyndod, ei yrfa fel un o reffaris rygbi gorau'r byd, ei deithiau, ei deulu, ei iselder a'i rywioldeb.
~Publisher: Y Lolfa
Mae Nigel Owens wedi bod yn ffigwr amlwg ar ein sgriniau teledu ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae i’w weld yn ein diddanu ni ar raglenni megis Jonathon, Munud i fynd ac Wyt ti’n Gêm?, yn ogystal ag ar raglenni chwaraeon, wrth gwrs, yn dyfarnu ar gaeau rygbi dros y byd. Mae gyrfa dyfarnu Nigel wedi ei arwain at y lefel uchaf un, ac yn 2015 cafodd o’r cyfle i ddyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd yn Twickenham.
Er ei lwyddiant amlwg, dydy taith Nigel drwy fywyd ddim wedi bod yn un rhwydd, ac yn C’mon Reff! dy'n ni’n cael cyfle i ddod i nabod Nigel yn well, ac i ddysgu mwy am yr heriau mae o wedi eu hwynebu ar hyd y daith honno.
Addasiad i ddysgwyr gan Elin Meek o Hanner Amser, hunangofiant Nigel Owens, ydy C’mon Reff! Mae’r llyfr wedi ei rannu yn benodau byr, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd Nigel, sydd, yn ogystal â bod yn adlewyrchiad o’r amrywiaeth o brofiadau eang mae wedi eu cael yn ystod ei fywyd, yn rhywbeth dw i’n gweld yn help mawr i ddysgwyr. Mae’n bwysig teimlo eich bod chi’n gwneud cynnydd, ac mae darllen llyfr yn llai heriol os mae rhywun yn medru targedu gorffen pennod (neu efallai mwy, wrth reswm!) mewn un sesiwn; a dweud y gwir mae hyn yn rhywbeth dw i’n gwerthfawrogi wrth drafod unrhyw lyfr! Dw i hefyd yn falch o weld y geiriau llai cyfarwydd sydd yn y testun mewn print bras, a’u cynnwys mewn geirfa ar waelod pob tudalen (adnodd sydd ym mhob llyfr yn y gyfres Amdani).
Mae’r Nigel Owens ry'n ni’n dod i’w nabod trwy ddarllen C’mon Reff! yn un tra gwahanol i’r bersonoliaeth ar deledu. O blentyndod Nigel yn ne Cymru, lle cafodd fagwraeth deuluol, agos yng nghymuned glòs Mynyddcerrig, dy'n ni’n dilyn ei daith, o'i swydd mewn ysgol leol i’w daith hir i fyny grisiau ysgol y byd dyfarnu rygbi.
Dyma hanes rhywun sy wedi llwyddo i newid ei fywyd yn sgil cyfnodau tywyll iawn. Mae’r penodau lle mae Nigel yn sôn am ei benderfyniad i fod yn onest â’i deulu a’r cyhoedd gan ddatgelu ei fod yn ddyn hoyw, yn cyfleu i ni pa mor anodd oedd y penderfyniad hwnnw. Ers hynny, wrth gwrs, mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, ac mae Nigel wedi bod yn benderfynol o ddefnyddio ei enwogrwydd er lles pobl mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae’n braf darllen bod pobl ei ardal a phobl ei gamp wedi bod mor gefnogol iddo fo.
Dyma hunanfywgraffiad dw i wir wedi’i fwynhau, ac un sy’n werth ei ddarllen.
~Neil Wyn Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.