Seeds have been sown in the future after a nuclear bomb has devastated Western Europe. Some Welshmen had established a community on a Norwegian Island where Cai and Gwawr were brought up. The have now reached Aberystwyth where they discover a primitive tribe which is swiftly running out of food and seeds to grow crops.
Mae Hadau wedi ei gosod yn y dyfodol ar ol i fom niwcliar ddinistrio gorllewin Ewrop. Roedd Cymry wedi sefydlu cymuned mewn ynys ger Norwy a Cai a Gwawr wedi eu magu yno. Maen nhw erbyn hyn wedi cyrraedd tref Aberystwyth yn yr henwlad (Cymru) ac yn dod o hyd i lwyth cyntefig sydd yn prysur rhedeg mas o fwyd a hadau i dyfu cnydau.
~Publisher: Y Lolfa
Os cawsoch chi flas ar Yr Ynys gan Lleucu Roberts, yna byddwch chi’n sicr o fwynhau Hadau – achos yr hyn a geir yma yw’r ail yn y drioleg ‘Yma’. Wedi dweud hynny, mae Hadau yn sefyll fel nofel ar ei phen ei hun hefyd, ac nid oes rhaid darllen y gyntaf yn y drioleg i allu deall y cefndir na’r digwyddiadau na gwybod am hanes y cymeriadau – dyma un o gampau’r awdures.
Megis yn Yr Ynys, yr hyn a geir yma yw hanes criw o bobl sy’n ddisgynyddion i Gymry yn dychwelyd i Aberystwyth yn y flwyddyn 2140. Mae hyn yn dilyn cyfnod maith o fyw ymhell o’r wlad a’i newidiadau di-rif. Cawn glywed am eu hantur, ac yn benodol am eu profiadau o ddod ar draws brodorion Aberystwyth 2140. Mae’r llwyth hwnnw wedi esblygu’n fodau dynol tra gwahanol i’r criw o’r ynys, gan addoli llygod mawr, yn un peth! Mae eu hiaith yn gymysgedd plentynnaidd o Gymraeg a Saesneg, a rhaid i’r criw wynebu’r gwahaniaethau hyn, gan gynnwys yr her o gyfathrebu’n llwyddiannus.
Un o gryfderau’r gyfrol yw’r clyfrwch syml a geir yn y deialogau wrth i ni ddysgu mwy am y brodorion, eu harferion a’u hiaith. Mae’r creadigrwydd hwn yn arwain at hiwmor yn aml iawn, boed yn hiwmor hollol amlwg, neu’n gynnil a chlyfar. Llwydda’r awdur hefyd i gadw’r ddysgl yn wastad wrth gyflwyno sefyllfaoedd sy’n ymddangos yn hurt bost ar adegau, ond ar yr un pryd yn cyffwrdd â realiti sy’n gyfarwydd i’r darllenydd. Mae hyn yn dipyn o gamp wrth archwilio a chyflwyno byd newydd i ddarllenydd.
Heb os, mae Lleucu Roberts yn berchen ar ddawn dweud arbennig. Mae’r iaith yn goeth a’r ysgrifennu’n grefftus. Pleser yw darllen nofel ag arddull gyhyrog nad yw’n tarfu ar lif y darllen. Rhaid aros yn amyneddgar am ymddangosiad y drydedd yn y drioleg nawr!
~Awen Schiavone @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.