A book for Welsh leaners, Entry Level. This is a humorous romance about one memorable day in the life of Sophie Reynolds, film extra. A Welsh adaptation of Big Hair Day by Meinir Wyn Edwards.
Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae'r nofel yn son am ddiwrnod ym mywyd Sophie, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae'n gorfod ymweld a swyddfa'r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae'n ffansio'r plismon yno!
~Publisher: Y Lolfa
Mae hon yn stori ysgafn sy’n siŵr o apelio at bawb. Mae ynddi droeon trwstan, rhamant, a thipyn o hiwmor. Mae’r prif gymeriad yn un agos atoch, ac yn ferch y gellir uniaethu â hi ar bob lefel.
Mae’r llyfr yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Mynediad sydd wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg ers ychydig fisoedd. Beth sy’n hollol wych am y nofel fer hon yw’r ffaith nad yw’r awdur yn cymryd yn ganiataol o gwbl y bydd y darllenydd yn deall unrhyw eirfa newydd, felly ceir ystod o eirfa ddefnyddiol ar waelod pob tudalen. Mae’r brawddegau’n ddigon syml i ddechreuwyr yn eu misoedd cyntaf o ddysgu. Does dim defnydd o strwythurau cymhleth na defnyddio ffurf gryno’r ferf yn y gorffennol. Yn y de, ’dyn ni’n dysgu ffurf gryno’r ferf yn y gorffennol o fewn yr ychydig fisoedd cyntaf o ddysgu felly mewn addasiad deheuol byddai hyn yn ddefnyddiol.
Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu mewn tafodiaith ogleddol felly wrth ddarllen pennod gyda chriw o fy nysgwyr deheuol roedd sawl cystrawen yn anghyfarwydd i’m dysgwyr i. Byddai’n braf gweld y nofel hon wedi ei haddasu i dafodiaith ddeheuol.
~Rhiannon Taylor @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.