The first title in a trilogy for the early teens. Efa is the queen -elect of Melanai, but does not wish to yield to following old customs, which include murdering her mother, the queen, when she is 16 years old. In this story, we follow Efa as she struggles against her own destiny. The second and third titles will be published in 2018 and 2019 respectively.
Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi'n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa yn brwydro yn erbyn ei thynged ei hun.
~Publisher: Y Lolfa
Mae’r nofel fer hon yn dilyn bywyd brenhines sy’n dod i delerau gyda’i gobeithion wrth iddi dyfu’n ddynes ifanc. Mae’r iaith a ddefnyddir drwy’r gyfrol yn peri i’r darllenydd gydymdeimlo â’r siwrnai emosiynol sy’n wynebu’r frenhines Efa. Mae Bethan Gwanas yn defnyddio perthynas y prif gymeriad, Efa, â’i ffrindiau i ddangos datblygiad cymeriad wrth i’r nofel fynd rhagddi ac wrth i sefyllfa Efa a’i ffrindiau fynd yn fwy bregus.
Dwi’n hoff o’r ffordd y mae’r nofel wedi’i gosod mewn cyfnod anarferol, sydd yn sioc i’r darllenydd wrth i’r cymeriadau ddatblygu. Mae’r cyfnod, a beirniadaeth y cymeriadau o’n cenhedlaeth ni, yn codi cwestiynau ynglŷn â’r modd yr ydyn ni’n trin y Ddaear a’r bywyd gwyllt sydd o'n cwmpas.
Mae Bethan Gwanas wedi llwyddo i ysgrifennu nofel sydd â menywod pwerus yn ganolbwynt iddi, peth anarferol mewn nofelau Cymraeg, yn enwedig y rheini sy’n canolbwyntio ar frwydro a rhamant. Mae’r nofel yn normaleiddio menywod cryf a’u sgiliau brwydro ac rwy’n tybio y bydd iddi apêl arbennig i ferched ifanc yn eu harddegau. Mae fel pe bai’n rymusol i ferched yn gyffredinol.
Er fy mod yn teimlo bod y nofel wedi’i hanelu at rai iau na mi (sef at rai yn eu harddegau), ces gymaint o fwynhad fel y bu i mi ei rhoi i ffrind arall a gafodd yr un mwynhad â minnau.
Mae elfennau mor annisgwyl ac anghyffredin i’r nofel fel y bûm yn meddwl am y stori yn hir ar ôl ei gorffen. Gan i ddiwedd y nofel orffen mor sydyn rwyf wir yn gobeithio mai'r gyntaf mewn cyfres yw hon. Rwy’n ysu i wybod mwy am y cymeriadau a beth ddaw o Melania, ei bradychwyr a’r rheini sydd yn ei rheoli.
~Alaw Glesni-Griffiths @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.