A forthright and witty volume of creative writings with biographical elements by Welsh actress and presenter Ffion Dafis.
Yn ei chyflwyniad, dywed Ffion Dafis: ‘Nid hunangofiant ydy hwn’. Er hynny, ymddengys mai ysgrifau hunangofiannol sy’n ffurfio swmp y gyfrol hon lle mae’r awdur nid yn unig yn ‘syllu ar walia’ ond hefyd yn syllu ar ei bogail, a hynny mewn ffordd fyrlymus a digyfaddawd o gignoeth.
Hyd yn oed yn ‘Fi a Fo’, sydd ar ffurf deialog rhwng dau gyn-gariad, ceir adlais o hanes carwriaeth yn dod i ben mewn pennod flaenorol oherwydd methiant yr awdur i fod yn onest am ei theimladau. Druan o wraig y cyn-gariad os ydi’r stori’n un wir, gan y byddai hynny’n ategu’r diffyg chwaeroliaeth y sonnir amdano yn y bennod ‘Merched’: ‘Dw innau wedi defnyddio’r arf bach annifyr o fychanu merch arall er mwyn gwneud i mi fy hun deimlo’n well.’
Efallai mai’r agwedd anchwaerol honno a barai i mi deimlo fod yna ormod o gyfeiriadau at fwng enwog yr awdur, fel yn y bennod ‘Y gyrliog afieithus un’, ond beryg fod hynny’n anochel pan mai eich llysenw ydi Ffion Gwallt!
Oes, mae yma afiaith, yn enwedig wrth sôn am ei rhwydwaith o deulu a ffrindiau agos, ond mae yna hefyd sôn am alar colli ei mam i ganser, a chyfleir creulondeb diurddas yr afiechyd yn y disgrifiad ingol o’r fam yn ‘codi oddi ar y tŷ bach yn ward Alaw a tharo ei phen yn erbyn y sinc wrth i’w choesau roi oddi tani’.
Mae’n sôn hefyd, â gonestrwydd glew, am yr ‘hyrddiau’ o banig sy’n ei phlagio; ei phersonoliaeth fyrbwyll a’i pherthynas gymhleth ag alcohol; ac agweddau cul a haerllug cymdeithas tuag at ferched di-blant sy’n peri iddi ofyn: ‘Ydw i wedi methu â chyflawni’r orchwyl o fod yn fenyw gyflawn?’
Wel naddo, dybiwn i, gan ei bod, fel sawl ‘hen lances’ anturus arall y gwn amdanynt, yn byw bywydau llawn a lliwgar a gwneud yn fawr o’u rhyddid trwy deithio i lefydd ecsotig a phellennig. Mae disgrifiadau’r awdur o wledydd fel India, Mongolia a Nepal yn drawiadol o fyw a manwl, a phe bai’r gwaith actio yn prinhau fe awgrymwn yrfa iddi fel awdur llyfrau taith!
O’r holl bic-a-mics amrywiol ei gynnwys a’i arddull a geir yn y gyfrol, credaf mai fy ffefryn ydi’r tamaid cyntaf yn ‘Twrci a thameidiau eraill’, lle mae’r awdur yn crwydro strydoedd Caerdydd ar noswyl Nadolig efo pen mawr ar ôl treulio noson feddw yng nghwmni chwaraewr rygbi rhyngwladol.
Mae’n gyfuniad o gomedi a phathos, ac yn gip ar fywyd strim-stram-strellach merch sy’n ymgiprys yn aml efo’i natur wyllt. A ph’un a fedrwch uniaethu â hi ai peidio (ac mi fedrwn i), mae ei dawn ysgrifennu yn ddiamheuol.
~Elin Llwyd Morgan @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.