A novel aimed mainly at Welsh learners, including a glossary of select words. Ben and Lena's only son has gone to university, and this places strain on the couple's relationship and raises questions about their future. Doubts are raised and secrets are revealed.
Pan fo Lena Richards ar groesffordd yn ei bywyd ac unigrwydd yn cydio, mae hi’n gwneud ffrind annisgwyl iawn sydd yn newid ei golwg ar bethau ac yn dod â hi at ei choed. Mae'n bosib mai Fi a Mr Huws gan Mared Lewis yw un o’r nofelau anwylaf y darllenwch chi byth ac mae hi'n un wych ar gyfer dysgwyr Cymraeg hefyd.
Nid hawdd yw gweld plentyn yn gadael y nyth a deffro i wacter na chafwyd yn y tŷ ers deunaw mlynedd. Mae’n newid popeth ac yn anffodus yn amlygu'r gwir ac yn codi amheuon di-ri. Mae'r gŵr wedi troi yn hen gariad rydych wedi ei gymryd yn ganiataol ers blynyddoedd lawer. Dydi'r gath hyd yn oed yn ddim byd ond poen. Does dim byd ar ôl ond gwaith, ac er bod yr oriau hynny yn llawn o ffrindiau da i Lena, mae rhywbeth mawr ar goll.
O nunlle, daw cyfle i Lena agor drws newydd i fywyd hen greadures o'r enw Thelma Morris, ac yno mae hi'n dod o hyd i bartner newydd sy'n adfywio ei bywyd ac yn ei harwain at ddigwyddiadau dirgel!
Mae'n bleser bod y nofel hon ar gyfer dysgwyr, ond y gwir glyfrwch yma yw bod hynny bron yn eilradd i stori werth chweil, lawn cymeriadau mor agos atoch. O fewn ychydig funudau o ddechrau darllen, mae'r darllenydd yn teimlo fel cymydog i Lena, yn sbecian dros glawdd yr ardd! Byddwch yn teimlo i'r byw yma hefyd, o fab yn gadael cartref i ŵr sy'n cadw cyfrinach, a'r holl anwadalwch sy'n dod gyda'r amau. I unrhyw berson sy'n hoff o gŵn (ac un sydd ddim yn or-hoff o gathod!), mae'r arwr sy'n achub Lena yn arwr i ni i gyd.
Yn llawn deialog hwyliog a chwim yn iaith lafar y gogledd, brawddegau cynnil sy'n cyffwrdd ag anghenion dysgwyr a geirfa ddefnyddiol ar waelod bob tudalen, a hyd yn oed yn cynnwys iaith negeseuon testun, mae hon wedi ei sgwennu'n graff ac yn bell o fod wedi ei hanelu at ddysgwyr yn unig, sydd yn rhywbeth i'w ganmol. Does dim iaith ffurfiol na phatrymau chwithig ar ei chyfyl, ac mewn ffordd mae hi'n nofel i’w darllen ar lefel is na lefel Uwch gan ddarllenwyr/ddysgwyr brwd a hyderus.
Mae'r penodau byrion yn help mawr i'w darllen mewn pytiau. Cofiwch, does dim rhaid deall pob gair i fwynhau nofel dda!
Dyma nofel i bawb, a gorau oll os ydi'r ci yn gwmni wrth i chi ei darllen!
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.